Brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) - Ynglŷn â'r brechlyn HPV
Cefndir
Mae Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn enw ar grŵp cyffredin o feirysau. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sydd â HPV symptomau ac nid ydynt yn datblygu problemau iechyd. Fodd bynnag, gall rhai mathau o HPV achosi defaid gwenerol neu arwain at rai mathau o ganser. Mae hyn yn cynnwys canser yng ngheg y groth, y geg, y gwddf, yr anws a’r organau cenhedlu. Mae bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael ei achosi gan haint HPV.
Mae astudiaethau o’r DU yn dangos bod y brechlyn HPV wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% mewn menywod a gafodd eu brechu pan oeddent rhwng 12 a 13 oed.
Mae HPV yn gyffredin iawn. Bydd y rhan fwyaf o fechgyn a merched yn dod i gysylltiad â feirws HPV rywbryd yn ystod eu bywydau.
Mae cael y brechlyn HPV pan gaiff ei gynnig yn rhoi’r amddiffyniad gorau yn erbyn canserau sy’n gysylltiedig â HPV a defaid gwenerol.
Cymhwystra ar gyfer y brechlyn
Ynglŷn â’r brechlyn
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Mwy o wybodaeth
Gwybodaeth i’r cyhoedd
Os hoffech ddysgu rhagor am HPV a’r brechlyn HPV, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth isod:
- Comig ac animeiddiad chlyweledol – Beth yw’r brechlyn HPV?
- EDUCATE: All about HPV video (safle allanol, Saesneg yn unig)
- HPV Inform website (safle allanol, Saesneg yn unig)
- Sgrinio Serfigol Cymru – Gwybodaeth am HPV
- New data shows the HPV vaccine is saving lives from cervical cancer – Cancer Research UK (safle allanol, Saesneg yn unig)
Gallwch gysylltu â’ch practis meddygon teulu neu ffonio GIG 111 Cymru os oes gennych gwestiynau.
Gwybodaeth i ysgolion
Trawsysgrif – Beth yw’r brechlyn HPV?
Helo, Cerys ydw i. Dw i’n nyrs, ac fe hoffwn i ddangos i chi sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i’ch amddiffyn chi rhag HPV. Os ydych chi ym mlwyddyn 8, felly’n ddeuddeg neu’n dair ar ddeg oed – mae’r wybodaeth yma i chi!
I ddechrau, beth yw HPV? Grŵp o feirysau yw HPV sy’n gallu achosi rhai mathau o ganser ac sy’n gallu achosi dafadennau neu haint yn y croen.
Fel arfer, bydd eich corff yn creu gwrthgyrff yn naturiol i frwydro yn erbyn heintiau a feirysau, ond mae’r brechlyn yn rhoi help llaw i ni er mwyn amddiffyn rhag HPV.
Mae’r datrysiad clyfar yma’n dysgu’ch corff sut i amddiffyn ei hunan rhag HPV. Mae mor syml â hynny, a bydd un ddos yn ddigon am oes.
Dw i’n siŵr eich bod chi’n meddwl tybed ydy’r brechlyn HPV yn brifo? Wel… efallai y teimlwch chi binsiad bach ar ochr eich braich, ond ddylai’r teimlad ddim para’n hir. Os ydych chi’n poeni o gwbl, bydd y Nyrs yn deall ac yn gallu tawelu’ch meddwl.
Gan ei fod yn beth newydd a bod angen i’ch corff ddod i arfer â fe, weithiau mae’r brechlyn HPV yn gallu achosi pen tost neu fraich boenus lle cawsoch chi’r brechlyn, ond fel arfer dydy hynny ddim yn para’n hir o gwbl.
Beth sy’n digwydd nesaf? Ym mlwyddyn 8, bydd tîm nyrsio neu imiwneiddio ysgol yn dod i’ch ysgol i gynnig y brechlyn pwysig yma i chi. Bydd gennych amser i fynd â gwybodaeth adre ac i drafod y brechlyn gyda rhiant neu warcheidwad. Dim ond ar ôl cael eich caniatâd chi a chaniatâd eich rhiant neu warcheidwad bydd y nyrs yn rhoi’r brechlyn i chi. Os nad ydych chi’n mynd i’r ysgol, gofynnwch i’ch rhiant neu’ch gwarcheidwad drefnu apwyntiad i chi gyda nyrs y practis yn eich meddygfa leol.
Beth am rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu am HPV gyda’ch rhieni neu’ch gwarcheidwaid drwy ddangos y fideo yma iddyn nhw? Neu fe allan nhw fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Trawsysgrif – HPV C&A
HPV yw’r enw byr ar gyfer y Feirws Papiloma Dynol, sef feirws cyffredin iawn sydd yn gallu achosi rhai fathau o ganser.
Mae HPV yn cael ei ledaenu drwy gysylltiad croen â chroen, a ni fydd pawb yn cael symptomau felly nid ydynt yn ymwybodol eu bod wedi cael eu heintio.
Amcangyfrifir y bydd wyth allan o 10 person yn cael eu heintio gan HPV ar un adeg yn eu bywydau ond nid yw hyn yn golygu fydd pawb yn mynd ymlaen i cael canser.
Gardasil 9 yw enw y brechlyn HPV sydd yn cael ei defnyddio yn y Deyrnas Unideg.
Mae’r brechlyn hwn yn cynnwys proteinau unigol o naw fath o HPV sydd yn creu ymateb
imiwnyddol yn y corff.
Fe’i rhoddir drwy bigiad yn rhan uchaf o’r fraiche a mae’n wych o ran rhoi amddiffyniad yn erbyn y feirws HPV, ac yn ei dro fe’i gall helpu amddiffyn yn erbyn rhai fathau o ganser.
Canser ceg y groth yw’r prif fath o ganser sy’n gallu cael ei achosi o’r feirws HPV, ond hefyd gall achosi canser y wain, y fwlfa, y pidyn a’r anws, ac ambell waith, rhai fathau o ganser y geg a’r gwddf.
Disgwylir i’r brechlyn achub cannoedd o bywydau bob blwyddyn yn y Deyrnas Unideg.
Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y growth bron 90% mewn menywod yn eu 20au.
Mae’r sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn. Y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yw cur pen a poen yn y fraiche ond fel arfer dyw’r rhain ddim yn para’n hir o gwbl.
Fel gyda pob brechlyn, mae adroddiadau sgil-effeithiau yn cael eu monitro’n agos a’u hadolygu gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn y Deyrnas Unideg.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y brechlyn HPV yn ddiogel iawn ac yn cynnig amddiffyniad rhagorol yn erbyn HPV.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2025