Neidio i'r prif gynnwy

Y feirws papiloma dynol (HPV)

Mae un neu ragor o fathau risg uchel o'r feirws papiloma dynol yn bresennol mewn dros 99.8% o ganserau ceg y groth.

Bydd profi pawb sy'n mynd i gael prawf sgrinio serfigol gan ddefnyddio prawf ar gyfer HPV risg uchel yn nodi mwy o newidiadau yn y celloedd ac yn atal mwy o ganserau na dim ond archwilio'r celloedd.

 

Beth yw HPV?

Mae HPV yn golygu feirws papiloma dynol. Mae hwn yn feirws cyffredin iawn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad ag ef ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. 

Mae llawer o wahanol fathau o'r feirws ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn achosi unrhyw broblemau. Mae'r mathau gwahanol yn cael eu hadnabod gan rif, er enghraifft HPV math 18. 

 

Beth mae'r feirws yn ei wneud?

Yn y rhan fwyaf o bobl, nid yw HPV yn achosi unrhyw broblemau, gan y bydd y corff yn cael gwared ar y feirws ar ei ben ei hun.

Gall rhai mathau o HPV achosi newidiadau yn y celloedd ar y croen.

Gelwir y rhain naill ai'n fathau risg uchel neu risg isel yn dibynnu ar ba newidiadau y gallant eu hachosi.

Gall mathau risg uchel o HPV achosi newidiadau yng nghelloedd y croen sy'n gorchuddio ceg y groth. Gelwir y newidiadau yn y celloedd hyn yn neoplasia mewnepithelaidd serfigol (CIN). Bydd y rhan fwyaf o CIN yn diflannu ar ei ben ei hun, ond weithiau gall waethygu a throi'n ganser ceg y groth.

Gall mathau risg uchel o HPV hefyd achosi newidiadau yn y celloedd croen mewn rhannau eraill o'r corff.

Mathau 16 ac 18 yw'r mathau risg uchel mwyaf cyffredin, ond ceir 14 o fathau risg uchel y profir amdanynt mewn sgrinio serfigol.

Gall mathau risg isel o HPV achosi dafadennau. Nid yw sgrinio serfigol yn profi am fathau risg isel gan na fyddant yn achosi canser ceg y groth.

 

Sut rwyf yn ei gael?

Mae HPV yn cael ei ledaenu drwy gysylltiad croen â chroen. Ar gyfer HPV yng ngheg y groth, mae hyn drwy gysylltiad rhywiol. Gall hyn fod drwy gael rhyw llawn, rhyw geneuol, cyffwrdd organau cenhedlu neu rannu teganau rhyw.

 

A yw’n gyffredin?

Ydy. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu heintio ar ryw adeg yn eu bywydau ond nid ydynt byth yn gwybod. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd amddiffynfeydd y corff ei hun (y system imiwnedd) yn cael gwared ar y feirws.

 

Sut rwyf yn gwybod a oes gennyf y feirws?

Nid yw'r feirws yn achosi unrhyw symptomau hyd yn oed os oes newidiadau yn y celloedd ar geg y groth.  Dyma pam mae sgrinio serfigol yn bwysig.

 

Am ba mor hir rwyf wedi cael y feirws?

Gall y feirws HPV orwedd yn segur (yn cysgu) am flynyddoedd lawer ac efallai na fydd byth yn achosi unrhyw newidiadau yn y celloedd. Os yw'n cael ei ganfod ar brawf sgrinio, ni allwn ddweud am ba mor hir y bu yno. Efallai y bydd y feirws yn achosi newidiadau yn y celloedd flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Dyma pam mae'n bwysig parhau i gael eich sgrinio pan fyddwch yn cael eich gwahodd, hyd yn oed os yw eich profion wedi bod yn normal erioed.

 

A ellir trin HPV?

Mae HPV yn feirws, sy'n golygu na ellir ei drin â gwrthfiotigau. Yn y rhan fwyaf o bobl, bydd y corff yn cael gwared ar y feirws ar ei ben ei hun. Oes oes gennych newidiadau yn y celloedd a achosir gan y feirws, efallai y bydd angen trin y rhain mewn clinig colposgopi. Bydd y rhan fwyaf o'r mân newidiadau yn y celloedd yn diflannu ar eu pen eu hunain heb driniaeth.

 

Pwy all gael HPV?

Gall unrhyw un gael HPV a'i drosglwyddo i bartneriaid. Mae HPV risg uchel hefyd yn gysylltiedig â chanserau eraill gan gynnwys canserau'r pen, y gwddf, yr organau cenhedlu a chanserau'r anws.

 

Sut y gallaf ei atal?

Gall defnyddio condomau leihau eich risg, ond nid yw hyn yn rhoi amddiffyniad llwyr i chi, er bod condomau'n amddiffyn rhag heintiau eraill. Bydd mynd am sgrinio serfigol yn dweud wrthych a oes gennych y feirws yng ngheg y groth ac a yw'n achosi unrhyw newidiadau yn y celloedd.

 

A yw'n achosi anffrwythlondeb?

Nac ydy, nid oes unrhyw dystiolaeth bod cael HPV yn cael unrhyw effaith ar ffrwythlondeb yn y dyfodol.

 

A yw'n achosi AIDS?

Nac ydy. Mae AIDS (Syndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig) yn cael ei achosi gan feirws gwahanol o'r enw HIV (Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol). Gall pobl sydd â HIV ei chael yn anoddach cael gwared ar HPV a bydd angen iddynt gael eu sgrinio'n amlach.

 

Beth am smygu?

Mae smygu yn gwneud system imiwnedd eich corff yn wannach. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer anoddach i'ch corff gael gwared ar y feirws. Mae smygu yn dyblu'r risg o ganser ceg y groth

 

Beth am frechu?

Ers mis Medi 2019, cynigir y brechiad i bawb 12-13 oed.   Fodd bynnag, mae'n bosibl datblygu newidiadau yn y celloedd hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn. Dylai pobl sydd wedi cael eu brechu gael eu profion sgrinio serfigol o hyd pan fyddant yn cael eu gwahodd.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael yma

 

Pam nad yw'r brechlyn yn atal pob achos o ganser ceg y groth?

Mae rhai canserau ceg y groth yn cael eu hachosi gan wahanol fathau o HPV na'r hyn a gwmpesir gan y brechlyn. Mae hyn yn golygu na all y brechlyn atal pob achos. Dyma'r rheswm rydym yn dal i'ch cynghori i gael sgrinio serfigol, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu.

 

Os nad yw'n atal pob achos a yw'n werth cael eich brechu?

Ydy – mae'r brechlyn yn cwmpasu'r mathau mwyaf cyffredin (risg uchel) o'r feirws, sy'n achosi tua 70% o ganserau ceg y groth. Rhoddir y brechlyn i ferched a merched 12-13 oed oherwydd dylid ei roi cyn y gallent ddod i gysylltiad â HPV. 
 

Rwyf wedi cael y brechiad ond erbyn hyn mae gennyf HPV risg uchel ar fy mhrawf – beth yw'r rheswm dros hyn?  

  • Efallai nad yw'r math o HPV risg uchel sydd gennych yn un a gwmpesir gan y brechlyn.
  • Efallai eich bod eisoes wedi dod i gysylltiad â'r feirws cyn i chi gael eich brechu.

 

Cwestiynau Cyffredin HPV