Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Feirws Papiloma Dynol (HPV)

Beth yw HPV?

Ystyr HPV yw feirws papiloma dynol. Mae hwn yn feirws cyffredin iawn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad ag ef ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. 

Mae gwahanol fathau o'r feirws ac nid yw'r mwyafrif ohonyn nhw’n achosi unrhyw broblemau.  

Dim ond rhai mathau o HPV sy'n achosi canser ceg y groth.  Gelwir y rhain yn fathau risg uchel.

Mae profion sgrinio serfigol yn profi HPV risg uchel.

Mae bron pob canser ceg y groth (mwy na 99.8%) yn cael ei achosi gan un neu fwy o fathau risg uchel o HPV.

Os bydd y feirws wedi achosi newidiadau i'ch celloedd, mae’n bosibl y bydd angen trin y rhain mewn clinig colposgopi. 

 

Beth mae'r feirws yn ei wneud?

Nid yw HPV yn achosi unrhyw broblemau i’r rhan fwyaf o bobl, gan y bydd y corff yn cael gwared ar y feirws ar ei ben ei hun.

Gall mathau risg uchel o HPV achosi newidiadau yng nghelloedd ceg y groth. Gelwir y newidiadau hyn i gelloedd yn neoplasia mewnepithelaidd serfigol (CIN). Mewn rhai achosion gall newidiadau i’r celloedd fynd yn ôl i normal, ond weithiau gallant waethygu a throi’n ganser ceg y groth.

Os ydych chi'n ysmygu, bydd system imiwnedd eich corff yn wannach. Mae hyn yn ei gwneud hi'n llawer anoddach i'ch corff gael gwared ar y feirws.

Mae ysmygu yn dyblu'r risg o ddatblygu canser ceg y groth.  Ewch i wefan Helpa fi i Stopio i gael Cymorth i roi'r gorau i ysmygu.
 

Sut mae rhywun yn cael HPV?

Mae HPV yn cael ei drosglwyddo pan fydd y croen yn dod i gysylltiad â chroen rhywun arall. O ran HPV yng ngheg y groth, daw hyn trwy gyswllt rhywiol. Gallwch gael HPV drwy unrhyw fath o ryw neu gyffwrdd rhywiol. Gall hyn fod gyda dyn neu fenyw. 

Gall defnyddio condomau leihau eich risg, ond nid yw'n rhoi amddiffyniad llwyr i chi, er bod condomau yn amddiffyn rhag heintiau eraill.

 

Sut ydw i'n gwybod bod gen i HPV?

Mae cael prawf sgrinio serfigol yn bwysig oherwydd nid yw'r feirws fel arfer yn achosi unrhyw symptomau, hyd yn oed os oes newidiadau i gelloedd ceg y groth. 

Gall HPV fod yn segur am flynyddoedd lawer ac mae’n bosibl na fydd byth yn achosi unrhyw newidiadau i’r celloedd. Os caiff ei ganfod ar brawf sgrinio, ni fydd yn bosibl dweud pa mor hir y mae wedi bod yno. Gall y feirws achosi newidiadau i’r celloedd flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.

 

Ynglŷn â’r brechlyn HPV

Mae pawb rhwng 12-13 oed yn cael cynnig y brechlyn HPV.  Fodd bynnag, mae'n bosibl i newidiadau i’r celloedd ddatblygu er gwaethaf cael y brechlyn. Dylai pobl sydd wedi cael eu brechu dal i fynd am brawf sgrinio serfigol pan fyddan nhw’n cael eu gwahodd.

Mae rhai mathau o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan wahanol fathau o HPV nad ydy’r brechlyn yn eu hatal. Mae hyn yn golygu na all y brechlyn atal pob achos.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael yma 

neu drwy ymddiriedolaeth canser ceg y groth Jo

 

Cwestiynau Cyffredin.