Neidio i'r prif gynnwy

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â sut rydym yn ymgysylltu â gwasanaethau gofal iechyd

Cyhoeddwyd: 30 Ebrill 2024

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darganfod bod oedolion a ddioddefodd Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod  megis cam-drin plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ymgysylltu llai â gwasanaethau gofal iechyd.

Gall profiadau plentyndod ddylanwadu ar iechyd, llesiant ac ymddygiadau drwy gydol bywyd unigolyn, a gall dod i gysylltiad â Phrofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod gynyddu’r risg o fabwysiadu ymddygiadau sy’n niweidio iechyd a datblygu salwch corfforol a meddyliol.

Arolygodd yr ymchwil hwn 1,696 o oedolion yng Nghymru a Lloegr a darganfuwyd bod unigolion a oedd wedi profi pedwar math o Brofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod neu fwy dros ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd am gysur isel wrth ddefnyddio ysbytai, practisiau meddygon teulu a deintyddfeydd, o’u cymharu â’r rhai heb unrhyw ACE. Roeddent hefyd dros deirgwaith yn fwy tebygol o feddwl nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn poeni am eu hiechyd nac yn deall eu problemau. Roedd pobl a oedd wedi profi pedwar Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod neu fwy hefyd unwaith a hanner yn fwy tebygol o nodi eu bod yn cymryd meddyginiaethau presgripsiwn ar hyn o bryd ac yn nodi nad oeddent bob amser yn cymryd meddyginiaeth yn ôl y cyfarwyddiadau, o'u cymharu â'r rhai nad oeddent wedi cael yr un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod. 

Wrth sôn am y canlyniadau, dywedodd Dr Kat Ford ym Mhrifysgol Bangor,

“Oherwydd bod tua hanner y boblogaeth yn profi o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod, mae’n hanfodol bwysig bod darparwyr gofal iechyd yn deall sut gall Brofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod effeithio ar ymgysylltiad gofal iechyd er mwyn gallu teilwra cymorth ar gyfer unigolion sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.”     

Ychwanegodd yr Athro Karen Hughes, Rheolwr Ymchwil a Datblygu (Prosiectau Arbenigol) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru,

“Gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod gynyddu'r risg y bydd unigolion yn wynebu iechyd gwael drwy gydol eu hoes ac o ganlyniad y bydd angen iddo ymgysylltu â gwasanaethau iechyd. Fodd bynnag, gall Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod hefyd effeithio ar sut y bydd pobl yn ymateb i straen a’u hymddiriedaeth mewn eraill, a all ddylanwadu ar yr hyn y byddant yn ei feddwl am wasanaethau iechyd a chyngor. Gall datblygu gwasanaethau gofal iechyd sy'n ystyriol o drawma helpu i wella perthnasoedd pobl â gweithwyr iechyd proffesiynol a sut y byddant yn cadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd.