Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd mewn achosion o TB yng Nghymru, ond mae'r duedd tymor hwy yn gostwng – adroddiad newydd

Cyhoeddig: 22 Mawrth 2024

Cynyddodd nifer yr achosion newydd o TB yng Nghymru o 71 yn 2022 i 84 yn 2023, ond mae'r duedd tymor hwy yn gostwng, yn ôl adroddiad newydd sy'n cael ei gyhoeddi cyn Diwrnod TB y Byd (24 Mawrth).   

Mae’r adroddiad, Twbercwlosis yng Nghymru, hefyd yn canfod bod yr haint yn cael ei nodi'n amlach yn y rhai sy'n mewn ardaloedd mwy difreintiedig. 

Er bod y cynnydd yn 2023 yn 18 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae'r niferoedd yn isel, ac mae Cymru yn parhau i fod yn wlad o achosion isel ar gyfer TB.  

Mae unigolion o wledydd â nifer uchel o TB, y rhai sydd â ffactorau risg cymdeithasol fel y defnydd o gyffuriau neu ddigartrefedd, neu'r rhai â chyflyrau fel diabetes neu sy'n ddifrifol imiwnoataliedig yn wynebu risg uwch o haint.  

Dros y tymor hwy, mae Cymru wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o TB ers uchafbwynt o 3.7 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 2014.   

Er bod Cymru ar y cyfan yn parhau o fewn diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o wlad achosion isel (llai na 10 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth y flwyddyn) mae amrywiad daearyddol sylweddol, gyda mwy o achosion yn Ne-ddwyrain Cymru  

Dywedodd Josie Smith, Uwch-epidemiolegydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae'r cynnydd mewn achosion o TB yng Nghymru yn gyson â thueddiadau tebyg sy'n cael eu gweld mewn rhannau eraill o'r DU, a'r hyn rydym yn ei wybod am effaith y clefyd ar gymunedau mwy difreintiedig.   

“Er mai'r duedd tymor hwy yng Nghymru yw cyfraddau sy'n gostwng, ni ddylem fod yn hunanfodlon - dylai tystiolaeth o arafu o ran gostwng cyfraddau TB fod yn bryder.  

“Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i weithio tuag at ddileu TB, gan gynnwys drwy Grŵp Goruchwylio Dileu TB o dan arweiniad Llywodraeth Cymru.”   

Mae rhoi terfyn ar yr epidemig TB byd-eang erbyn 2030 ymhlith Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.   

Mae TB yn haint sydd fel arfer yn effeithio ar yr ysgyfaint gyda symptomau'n cynnwys peswch parhaus gyda mwcws neu waed ynddo, teimlo'n flinedig, tymheredd uchel neu chwysu yn ystod y nos, colli archwaeth, colli pwysau, teimlo'n sâl yn gyffredinol, ymhlith symptomau posibl eraill.  

Fodd bynnag, mae cyfraddau TB ar yr ysgyfaint yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae cyfran uwch o ddiagnosis TB bellach oherwydd TB mewn rhannau eraill o'r corff, a'r nodau lymff, yr arennau a’r llwybr gastroberfeddol yw'r rhannau mwyaf cyffredin o haint allysgyfeiniol.  

Weithiau gall person gael TB yn ei gorff ond nid yw'n profi unrhyw symptomau. Gelwir hyn yn TB cudd.  

Roedd mwy na hanner yr holl achosion newydd a gafodd ddiagnosis o TB (60 y cant) yng Nghymru yn 2023 ymhlith pobl a anwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Nid yw’n hysbys pa gyfran o'r achosion hyn sy'n deillio o ailweithredu clefyd cudd a gafwyd cyn cyrraedd yn y DU.  

Yn y rhan fwyaf o achosion mae TB yn haint y gellir ei drin gyda thriniaeth ar ffurf gwrthfiotigau, sydd fel arfer yn cael eu cymryd am gyfnod o bedwar i chwe mis.