Neidio i'r prif gynnwy

Mae adnodd meddwl hirdymor yn helpu sefydliadau i ddiogelu iechyd cenedlaethau'r dyfodol

Cyhoeddig: 25 Mawrth 204

Mae adnodd newydd i helpu sefydliadau i ddefnyddio meddwl hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd yn cael ei lansio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.  Mae'n darparu offer ac astudiaethau achos sy'n dangos sut y gallwn symud ymlaen o drin clefydau yn unig i hyrwyddo iechyd da ac atal salwch pryd bynnag y gallwn. 

Gall helpu sefydliadau i feddwl am yr hirdymor wella prosiectau a phrosesau presennol a gwella ansawdd y penderfyniadau pwysig sy'n ysgogi eu gwaith bob dydd. 

Nod yr adnodd newydd yw ysbrydoli'r rhai yng Nghymru a thu hwnt i leihau anghydraddoldeb iechyd drwy archwilio dulliau i alluogi meddwl hirdymor a rhannu astudiaethau achos sy'n dangos sut y mae'r dulliau hynny wedi'u defnyddio yng Nghymru. Mae'n arwain defnyddwyr drwy nodi tueddiadau perthnasol, creu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a phennu trywydd ar gyfer dyfodol a ddymunir. Mae'r dulliau a drafodwyd yn cynnwys chwilio'r gorwelion, triongl y dyfodol, echelau ansicrwydd a chynllunio senario, ymhlith eraill. 

Mae'r astudiaethau achos yn cynnwys: diffinio strategaeth hirdymor 100 mlynedd ar gyfer Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, paratoi ar gyfer goblygiadau hirdymor darn newydd o ddeddfwriaeth amgylcheddol yng Nghymru, archwilio sut beth allai a sut beth ddylai'r system dai yng Nghymru fod, a llawer mwy. Wrth archwilio pob astudiaeth achos, mae'r adnodd yn arwain defnyddwyr drwy'r dulliau amrywiol o feddwl hirdymor sydd wedi'u defnyddio. Mae'n cynnig awgrymiadau ar ddull, pwy i'w cynnwys, yr amser sydd ei angen, allbynnau, ac mae'n argymell pecynnau cymorth penodol ar gyfer arweiniad manylach. 

Meddai Louisa Petchey, Uwch-arbenigwr Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru “mae hwn yn adnodd gwerthfawr i helpu sefydliadau i gynllunio ar gyfer dyfodol gwell a bodloni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae'n cynnig cymorth ymarferol i nodi'r camau nesaf yn ogystal â mewnwelediad hanfodol i enghreifftiau bywyd go iawn lle mae meddwl yn yr hirdymor yn cael ei ddefnyddio'n dda er mwyn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd. Rydym yn wynebu amseroedd heriol yng Nghymru gyda'n gwasanaethau gofal iechyd, mae'r sector cyhoeddus ehangach a'r trydydd sector o dan straen mawr. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn cydbwyso rheoli argyfyngau heddiw ag atal argyfyngau'r dyfodol.” 

Meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; “Mae anghydraddoldebau iechyd yn cael effaith enfawr ar lesiant cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol pobl yng Nghymru. Mae angen i ni ystyried sut y gallwn fynd i'r afael â'r rhain a'u hatal yn yr hirdymor fel bod gan ein cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol fynediad cyfartal at flociau adeiladu bywyd iach a hapus - addysg, tai, mynediad at natur a chysylltiadau cymdeithasol. Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd a chymhlethdod, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn meddwl am effeithiau ein penderfyniadau yn y dyfodol a gweithredu nawr ar gyfer gwell yfory. Gall yr adnodd newydd hwn helpu pobl a sefydliadau yng Nghymru i feddwl a gweithredu yn yr hirdymor a gwella bywydau ac iechyd pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol." 

Meddai Luke Maggs, Ymchwilydd Gweithredol Arweiniol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru; "Wrth i Gymru sefyll ar gyrion argyfwng natur a hinsawdd digynsail, nawr yn fwy nag erioed mae angen i ni ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau hirdymor.  Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y newid i natur-bositif a sero net yn cael ei wneud mewn modd teg sydd hefyd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd sydd mor gyffredin yn ein cymunedau ac yn adeiladu economi adfywiol i bobl Cymru. Rydym yn croesawu'r adnodd newydd hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chenedlaethau'r Dyfodol Cymru sy'n helpu partneriaid archwilio'r materion hyn drwy ddefnyddio technegau dyfodol a rhagfynegi."