Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Wyddoniaeth Prydain - Stori Lee

I nodi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, rydym yn #ChwaluStereoteipiau ac yn dod â straeon i chi gan staff yn y Gyfarwyddiaeth Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio.

Heddiw, rydyn ni'n dod â stori Lee i chi.

"Byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o nyrsys gwrywaidd.

Drwy gydol fy amser yn yr ysgol nid oeddwn erioed wedi ystyried gyrfa ym maes gwyddoniaeth. Roeddwn wir yn mwynhau hanes am ddilyn gyrfa mewn hanes neu'r heddlu. Dim ond pan ddechreuais fy swydd gyntaf y cefais y syniad o weithio ym maes gwyddoniaeth.

Gadewais yr ysgol hanner ffordd drwy fy astudiaethau Safon Uwch. Fy swydd gyntaf oedd fel arlwywr yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ar ôl gwneud y swydd am flwyddyn neu ddwy cefais y cyfle i wneud cais am rôl Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd band 2 mewn niwroleg.

Wrth weithio yn y rôl hon, ochr yn ochr â nyrsys, penderfynais fy mod am ddilyn gyrfa nyrsio. Roeddwn am helpu pobl mewn angen. Roedd fy mam, sy'n nyrs gofrestredig, yn ysbrydoliaeth hefyd.

Gwnes gais am gwrs Mynediad i Nyrsio mewn coleg lleol ac enillais y cymwysterau yr oeddwn eu hangen i gofrestru ym Mhrifysgol De Cymru. Fe wnes i raddio yn 2018.

Dychwelais i niwroleg fel nyrs gymwysedig. Ar ôl blwyddyn, roeddwn yn ffodus i gael rôl band 6 ar y ward. Arhosais nes i'r pandemig Covid daro. Gwirfoddolais i weithio ar y wardiau yn Stadiwm Principality. Roedd yn amser anodd iawn, a dysgais lawer am amrywiaeth eang o faterion.

Yn 2021, pan oeddwn wedi fy adleoli i helpu i ddarparu brechiadau Covid, gwnes gais llwyddiannus am rôl Arweinydd Clinigol Band 7. Arhosais yno tan fis Ionawr 2024, pan symudais i'm rôl bresennol gyda Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.

Mae'r rôl hon yn cynnwys arwain a chynorthwyo tîm, wrth gynnal a hyrwyddo rhagoriaeth glinigol mewn clinigau. Rwyf hefyd yn gyfrifol am gysylltu a siarad â chyfranogwyr ynghylch ymholiadau am sgrinio. Rwy'n cael llawer o foddhad o weithio gyda chyfranogwyr a'u helpu drwy unrhyw ymholiadau neu faterion a allai fod ganddynt.

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth, ac yn benodol nyrsio, i archwilio'r holl gyfleoedd posibl. Byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o nyrsys gwrywaidd. Pan oeddwn yn fachgen ifanc, nid oedd y syniad o nyrsio fel gyrfa erioed yn ymddangos yn bosibilrwydd i mi. Ond gwnaeth profiadau cynnar yn fy ngyrfa, a chael fy mam fel model rôl, newid hynny.

Mae nyrsio yn heriol ond yn hynod werth chweil. Rydych yn dysgu sgiliau bywyd, yn ogystal â dysgu llawer amdanoch chi'ch hun. Rydych yn mynd adref ar ôl eich shifft yn gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun." - Lee Morgan, Cydlynydd Nyrsys Rhanbarthol, Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.