Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion

SYLWER - Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am holl ofal a thriniaeth y GIG ledled Cymru.

 

GIG Cymru

Gofal mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau eraill

Ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru ymdrin â phob cwyn sy’n ymwneud â’ch iechyd a gwasanaethau’r GIG,  a allai fod yn gyfrifoldeb ar sefydliadau eraill y GIG ledled Cymru. Mae Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau eraill y GIG yn gyfrifol am gynllunio a chyflenwi'r gwasanaethau’r GIG ar gyfer eu poblogaethau yn eu hardaloedd daearyddol eu hunain. Mae'r gwasanaethau iechyd hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Gwasanaethau ysbyty 
  • Gwasanaethau deintyddol 
  • Optegol  
  • Fferylliaeth 
  • Gwasanaethau Meddygon Teulu 
  • Cymorth Iechyd Meddwl
  • Cludiant ambiwlans 
  • Triniaeth ganser

Mae angen cyfeirio unrhyw bryderon, adborth neu gwynion sydd gennych am y gwasanaethau hyn at y Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth GIG priodol. Am fanylion ar sut i gysylltu â'ch Bwrdd Iechyd Lleol, ewch i'r ddolen ganlynol:

Os yw eich cwyn yn ymwneud â Phractis Meddyg Teulu/Deintydd/Fferyllydd neu Optegydd, dylech ofyn i reolwr y practis/practis ymchwilio i'ch cwyn yn y lle cyntaf.

Gwasanaethau a gofal a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn anffodus, mae yna adegau pan na fydd pethau'n mynd yn ôl y bwriad.  Mae lleisio eich pryder neu gŵyn yn ein galluogi i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd, i ddysgu o’ch profiadau a gwella’r gwasanaethau a gynigiwn yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os ydych chi, aelod o'ch teulu, gofalwr, neu eiriolwr, yn dymuno trafod unrhyw gwynion sydd gennych am ofal neu wasanaeth a gawsoch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dylech siarad â'r staff sy'n ymwneud â'ch gofal a'ch triniaeth fel y gallant eich helpu i ddatrys y mater. Gallwch hefyd ysgrifennu atom neu ein ffonio.

Cwynion yn ymwneud  â Safonau’r Gymraeg

Bydd unrhyw gwynion a dderbynnir gan aelodau’r cyhoedd ynghylch cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, neu ddiffyg gwasanaethau Cymraeg/Dwyieithog a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu hadrodd i’n Tîm y Gymraeg a byddant yn dilyn y broses Gweithio i Wella (gweler isod  ).

Sut i leisio cwyn.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch fynegi pryder neu gŵyn ac rydym yn gwella ein prosesau yn barhaus i'w gwneud mor hawdd â phosibl i chi.
Ar hyn o bryd gallwch ysgrifennu llythyr atom, anfon e -bost atom neu siarad â ni yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r rhif cyswllt isod.

Ysgrifennwch atom.

Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Tîm Gweithio i Wella
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2
Capital Quarter
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

Siaradwch â ni neu e-bostiwch ni.

Gallwch leisio cwyn drwy siarad â ni’n uniongyrchol, neu, os ydych yn anhapus ag ymateb a gawsoch gan staff, cysylltwch â’r Tîm Gweithio i Wella drwy:

Ffôn: 0300 003 0383
E-bost: Cwynion.iechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk

Mae’r tîm Gweithio i Wella ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8 am a 4 pm.

 
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn lleisio cwyn.

Pan fyddwch yn lleisio cwyn, byddwn yn cysylltu â chi o fewn pump diwrnod gwaith dros y ffôn, trwy e-bost, neu mewn lythyr.
Yna byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn yn agored ac yn onest a byddwn yn ymateb i chi o fewn 30 diwrnod gwaith lle bynnag y bo modd.  Os oes disgwyl i'r ymchwiliad gymryd mwy o amser, byddwn yn cysylltu â chi i egluro pam, a byddwch yn derbyn diweddariadau rheolaidd.

Llais – os oes angen cymorth arnoch i leisio eich cwyn.  

Os oes angen cymorth arnoch i leisio cwyn am un o wasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch siarad â Llais. Mae Llais yn gorff annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae yma i sicrhau bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a chyflenwi gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd ei staff eirioli cwynion ymroddedig a hyfforddedig yn rhoi'r cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim y mae gennych hawl iddo. 
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llais – 

Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n dal yn anhapus gyda chanlyniad fy nghwyn?

Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd yr ydym wedi trin eich cwyn, rhowch wybod i ni fel y gallwn drafod hyn gyda chi ymhellach.  Cymerir camau ychwanegol i geisio ateb eich holl gwestiynau a datrys eich cwyn lle bynnag y bo modd.  Fodd bynnag, os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch godi'r mater ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drwy ddefnyddio'r cyfeiriad isod. Dim ond os ymchwiliwyd iddi eisoes gennym ni y gall yr Ombwdsmon adolygu eich cwyn.

Cyfeiriad: 1 Ffordd Yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Dros y ffôn: 0300 790 0203 
E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru

Y Ddyletswydd Gonestrwydd.

O fis Ebrill 2023, mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol ar bob sefydliad GIG yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth am y ddyletswydd gonestrwydd ar gael yma:

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc.

Mae taflen wybodaeth wedi'i chynhyrchu i blant i egluro sut y gellir eu cefnogi i leisio pryder.

Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc ac eisiau Cefnogaeth ac Eiriolaeth, gallwch gysylltu â Meic drwy glicio ar y ddolen isod. 

Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 15 oed yng Nghymru. Gall Meic helpu gyda nifer o senarios; o ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd anodd. Bydd MEIC yn gwrando hyd yn oed pan fyddwch chi'n meddwl na fydd neb arall. Ni fydd staff MEIC yn eich barnu a byddan nhw’n eich helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud newid. Ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth.