Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Gwyddoniaeth Prydain - Stori Kelly

I ddathlu ymgyrch #ChwaluStereoteipiau Wythnos Gwyddoniaeth Prydain, sy'n proffilio'r bobl a'r gyrfaoedd amrywiol mewn gwyddoniaeth, rydym wedi siarad â chydweithwyr am stereoteipiau gweithio mewn gwyddoniaeth yr hoffent eu chwalu.

Heddiw, rydym yn cyflwyno stori Kelly i chi.

"Roeddwn yn dipyn o gîc yn yr ysgol.

Roeddwn i wir yn mwynhau'r ysgol. Roedd yn heriol ac roedd angen i mi weithio'n ddygn, ond roedd gennyf gariad at wyddoniaeth erioed. Dechreuodd y cariad hwn yn yr ysgol gynradd (flynyddoedd maith yn ôl) a pharhau drwy fy astudiaethau TGAU a Safon Uwch.

Roedd fy athrawon yn yr ysgol gyfun wir yn annog fy nghariad at wyddoniaeth. Astudiais ffiseg a bioleg Safon Uwch a sylweddoli'n gyflym mai bioleg oedd lle roedd fy nghalon. Roedd ffiseg yn gam rhy bell!

Pan oeddwn yn yr ysgol nid oeddwn yn gwybod bod gyrfa ar gael ym maes microbioleg. Roeddwn yn gwybod fy mod am weithio ym maes gwyddoniaeth ac mewn ysbyty ond nid oeddwn yn ymwybodol o rôl ‘gwyddonydd biofeddygol’ nes i mi fynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd.

Dechreuodd fy llwybr gyrfa yn ystod lleoliad fel rhan o'm trydedd flwyddyn yn y brifysgol. Nid oedd gan yr ysbyty yr es i ato, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, unrhyw leoliadau cyflogedig. Cynigiais weithio am ddim am flwyddyn yn y labordy Microbioleg, er mwyn i mi fagu profiad a chwblhau fy nhraethawd hir. Roedd hyn yn golygu gweithio saith diwrnod yr wythnos (roeddwn yn gweithio yn B&Q bob penwythnos hefyd), yn amser llawn, am flwyddyn. Roedd yn heriol, ond fel mae'n digwydd, yn werth chweil. Tuag at ddiwedd fy mlwyddyn ar leoliad cefais swydd dan hyfforddiant gyda Chwm Taf.

Roeddwn gyda Chwm Taf am gyfanswm o 17 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw, cwblheais fy MSc mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol, a phortffolio Cofrestru'r Sefydliad Gwyddoniaeth Fiofeddygol, i ddod yn Wyddonydd Biofeddygol Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal cofrestredig. Symudais ymlaen i swydd Uwch-wyddonydd Biofeddygol ac yna Rheolwr y Labordy Microbioleg a Firoleg.

Ymunais ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019 fel Rheolwr Rhaglen Wyddonol Microbioleg. Roedd y swydd yn berffaith i mi. Cymysgedd o wyddoniaeth a rheoli, ynghyd â rhedeg rhaglenni newid mawr. Drwy'r daith hon rwyf wedi datblygu fy nghariad a'm hangerdd ar gyfer arweinyddiaeth.

Y llynedd, llwyddais i gael swydd Dirprwy Bennaeth Gweithrediadau Dros Dro ar gyfer y Gwasanaeth Heintiau.  Rwy'n dwlu ar y rôl hon. Rwy'n gweithio o dan David Heyburn a Dr Robin Howe lle rydym yn arwain y gwasanaeth Heintiau ledled Cymru, sydd â dros 600 o staff sy'n gweithio ar draws 12 o labordai.

Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi cychwyn ar fy nhaith hyfforddi, gan ddod yn un o Hyfforddwr Gweithredol Cymwysedig Lefel 7 ILM. Rwy'n ffodus fy mod bod amser wedi cael cymorth rheolwyr ysbrydoledig i gyflawni fy nodau a'm dyheadau. Ac mae hynny'n rhywbeth rwyf am ei roi i eraill. Ni ddylai neb byth feddwl na allant gyflawni'r hyn y maent ei eisiau neu nad ydynt yn ddigon da. Gyda digon o ysgogiad ac argyhoeddiad personol, a'r cymorth cywir, gallwch gyflawni'r hyn rydych yn canolbwyntio arno.

Mae'r rôl hon yn dod â chymaint o foddhad swydd. O gwblhau a chyflwyno rhaglenni newid sy'n gwella ein gwasanaeth diagnostig, hyd at weld staff yn rhagori a chyrraedd eu nod. Mae datblygu staff yn hynod bwysig i mi a’r allwedd i lwyddiant parhaus ein gwasanaeth.

Nid oeddwn byth yn teimlo bod angen chwalu stereoteipiau o ran cymhwyso gwyddoniaeth. Ond wrth i mi gychwyn ar yrfa mewn gwyddoniaeth, sylwais mai prin oedd y menywod mewn swyddi arwain yn y meysydd gwyddonol ar draws y sefydliadau y gweithiais ynddynt. Ond rwy'n falch o ddweud bod hyn yn newid nawr.

Mae cynifer o gyfleoedd mewn gwyddoniaeth. Peidiwch â chael eich digalonni gan unrhyw stereoteipiau posibl o bobl mewn cotiau gwyn wedi'u cloi i ffwrdd mewn labordai. Ym maes Microbioleg yn unig mae cynifer o gyfleoedd gyrfa sydd bellach yn croesi llwybrau clinigol a labordy. Mae gwyddoniaeth yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Rwy'n argymell gyrfa mewn gwyddoniaeth yn fawr." - Kelly Ward, Dirprwy Bennaeth Gweithrediadau Dros Dro, Adran Heintiau