Neidio i'r prif gynnwy

Diweddaru'r offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus gyda'r data diweddaraf

Cyhoeddig: 21 Mawrth 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu'r dangosyddion yn yr offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus.  

Wedi'i gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, diben y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn eu cael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.  

Yn y fersiwn hon mae'r dangosyddion canlynol wedi'u diweddaru: ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu, ansawdd tai, pobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, smygu yn ystod beichiogrwydd, cyfraddau brechu yn 4 oed, a thoriadau clun ymhlith pobl hŷn.  

  • Dros y degawd diwethaf, mae cyfraddau torri clun mewn menywod 65 oed a throsodd wedi bod o amgylch 75-80 y cant yn uwch na dynion yn gyson. Mae hyn yn debygol oherwydd bod menywod yn wynebu risg uwch o ddatblygu osteoporosis o ganlyniad i'r menopos.  

  • Yn gyffredinol, mae canran y menywod 19-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi cynyddu yn y 10 mlynedd diwethaf er ei fod wedi gostwng yn y rhai 16-18 oed dros yr un cyfnod. Mae hyn wedi arwain at fwy o bobl 19-24 oed (89 y cant) mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant na phobl ifanc 16-18 oed (85 y cant) am y tro cyntaf ers dros ddegawd. 

  • Mae nifer y plant sydd wedi cael eu brechiadau diweddaraf pan fyddant yn 4 oed wedi gostwng ychydig o 88 y cant yn 2019/20, ond mae'n debyg i'r lefelau cyn y pandemig. 

Mae'r Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yn cael ei lunio ar ran Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy'n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae'n sail i'r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu amrywiaeth manylach o fesurau sy'n adlewyrchu'r penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant.