Neidio i'r prif gynnwy

Hepatitis C wedi'i ddileu yng ngharchar mwyaf y Deyrnas Unedig 

Cyhoeddig: 19 Mawrth 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi helpu CEF Berwyn, carchar mwyaf y DU, i ddileu hepatitis C ymhlith ei drigolion. 

Dyma'r ail dro i garchar yng Nghymru ddileu hepatitis C, a'r carchar cyntaf i wneud hyn oedd CEF Abertawe ym mis Medi 2019. 

Gellir priodoli dileu hepatitis C yn llwyr i'r broses profion pwynt gofal (POCT) cyflym, a elwir hefyd yn brofion lleol i gleifion, a gynigir i garcharorion o fewn diwrnod i fynd i mewn i'r carchar. 

Ar y safle, mae carcharorion yn cael eu sgrinio gan ddefnyddio prawf swab ceg i ganfod eu hamlygiad i hepatitis C, gyda'r canlyniadau'n cyrraedd cyn gynted ag 20 munud. Mae'r rhai sydd wedi'u hamlygu wedyn yn cael prawf PCR pigo'r bys cyflym i ganfod a oes ganddynt haint gweithredol gyda'r canlyniadau'n ymddangos o fewn 60 munud. 

Mae'r rhaglen profi a thrin gyflym hon yn effeithiol iawn ac yn helpu i wneud y carchar yn lle mwy diogel. Mae'r rhaglen hefyd yn fuddiol i'r gymdeithas ehangach drwy leihau baich hepatitis C yn y gymuned yn sylweddol. 

Meddai Louise Davies, Arweinydd Cenedlaethol Profion Pwynt Gofal Clefydau Heintus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae cyflawni dileu yn CEF Berwyn wedi bod yn ymdrech tîm amlddisgyblaethol gyflawn. Bydd gwaith yn parhau i gynnal y statws micro-ddileu a chyflawni'r targedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru”. 

Meddai Lee Devereux, Rheolwr Carchardai Cymru a De Lloegr ar gyfer Ymddiriedolaeth Hepatitis C “Wrth gerdded o amgylch landins CEF Berwyn mae'r agwedd tuag at hep C yn gadarnhaol gyda bron dim stigma o gwbl. Ni fyddai hyn wedi bod yn gyraeddadwy heb y cymheiriaid -CEF Berwyn bellach yw un o'r carchardai blaenllaw yn y byd o ran dileu hepatitis C.”

Meddai Liz Hurry Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr GIG Cymru "Roedd y tîm yn CEF Berwyn yn cynnwys fferyllwyr, nyrsys a chymheiriaid Ymddiriedolaeth Hepatitis C, ac roedd yn cynnwys cymheiriaid carcharorion hefyd. CEF Berwyn yw carchar mwyaf y DU felly cyflwynodd heriau unigryw. Mae'r tîm wedi gweithio'n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf yn addysgu i godi ymwybyddiaeth a lleihau stigma, profi a thrin gan ddefnyddio llwybr symlach. Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi micro-ddileu hepatitis C yn CEF Berwyn.”