Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Wyddoniaeth Prydain - stori Amy

I nodi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, rydym yn #ChwaluStereoteipiau ac yn dod â straeon i chi gan staff yn y Gyfarwyddiaeth Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio.

Heddiw, rydyn ni'n dod â stori Amy i chi.

Er mai fi oedd yr unig fenyw ar fy nghwrs, roeddwn yn ffynnu mewn carfan flaengar, gwnes i gais am rôl biowybodegydd yn PenGU, ac rwyf wedi bod yma ers bron pum mlynedd.

Mae fy swydd yn PenGU yn cynnwys cynllunio llwybrau biowybodeg i ddadansoddi data pathogen genomig, yn enwedig feirysau RNA fel HIV, ar gyfer gwyliadwriaeth ymwrthedd i gyffuriau. Mae gwybod bod fy ngwaith yn cyfrannu'n gadarnhaol at y byd yn dod â boddhad aruthrol, yn enwedig yng nghanol pwysau adeiladu gwasanaeth genomeg SARS-CoV-2 o'r dechrau yn ystod pandemig COVID-19.

Wrth wneud cais am fy rôl bresennol, cefais rywfaint o ddoethineb yr wyf yn mynnu ei drosglwyddo i eraill: “Mae menywod yn tueddu i danbrisio eu hunain. Os ydych yn cyfateb i 75% o'r disgrifiad swydd, yna gwnewch gais”. 

Os ydych yn ansicr am yrfa mewn gwyddoniaeth, rwyf yn eich annog i gynnal eich chwilfrydedd a'ch creadigrwydd. Mae'r rhinweddau hyn nid yn unig yn sail i wyddoniaeth ond hefyd yn meithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth, sy'n helpu mwy gyda chydnerthedd a hyder nag y byddech yn ei ddisgwyl." - Amy Gaskin, Biowybodegydd, Uned Genomeg Pathogen