Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwyr iechyd yn croesawu'r duedd ar i lawr mewn achosion o dynnu dannedd plant o dan anesthetig cyffredinol

Cyhoeddig: 29 Mawrth 2024

Mae arbenigwyr iechyd deintyddol cyhoeddus wedi croesawu canlyniadau sy'n dangos gostyngiad yn nifer yr achosion o dynnu dannedd plant o dan anesthetig cyffredinol dros y degawd diwethaf. 

Mae adroddiad ar y patrymau atgyfeirio deintyddol pediatrig yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dangos bod 8,901 o blant wedi cael triniaethau tynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol yn 2013/14. Gostyngodd hyn i 3,362 yn 2022/23 yn dilyn sawl blwyddyn o ostyngiad cyson. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 62 y cant yn nifer y plant sy'n cael y driniaeth fewnwthiol hon dros gyfnod o naw mlynedd. 

Nid yw tynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol heb risg a dim ond fel dewis olaf y dylid ei wneud. Gall iechyd y geg gwael arwain at bydredd dannedd a allai, os na chaiff ei drin, arwain at dynnu dannedd. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod difrifoldeb pydredd dannedd yn gwella ar lefel y boblogaeth yng Nghymru, ond mae'n dal i effeithio ar draean o'r holl blant pump oed. 

Canfu'r adroddiad fod mwy o atgyfeiriadau'n cael eu gwneud ar gyfer dynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol mewn ardaloedd sy'n profi lefelau uwch o amddifadedd. Nod rhaglen genedlaethol Cynllun Gwên yw lleihau'r gwahaniaethau hyn drwy feithrin arferion hylendid y geg da mewn plant o oedran ifanc. Mae Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yn gweithio gyda gwasanaethau blynyddoedd cynnar, meithrinfeydd ac ysgolion i helpu i ddechrau arferion da, gyda brwsio dannedd dan oruchwyliaeth ac ymweliadau farnais fflworid er mwyn helpu i amddiffyn dannedd rhag pydru.  

Meddai Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd mewn Iechyd Deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n galonogol gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n profi pydredd dannedd sy'n ddigon difrifol i'w gwneud yn ofynnol tynnu dannedd o dan anesthesia cyffredinol. Fodd bynnag, mae'n dal yn bryder bod angen y math yma o driniaeth ar lawer o blant a bod hyn yn fwy cyffredin mewn cymunedau sy'n llai cefnog”.  

“Mae arferion hylendid deintyddol da yn hynod bwysig i'w sefydlu'n gynnar ym mywyd plentyn. Dylid annog rhieni a gwarcheidwaid i ddarparu deiet siwgr isel i'w plant a goruchwylio eu brwsio â phast dannedd fflworid ddwywaith y dydd. Mae rhaglen Cynllun Gwên wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd deintyddol ar lefel y boblogaeth, ac mae'r gwaith hwn yn allweddol er mwyn mynd i'r afael ymhellach â'r gwahaniaethau o ran profiad i blant o gymunedau ag amddifadedd uwch.”