Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad y pâs (pertwsis) yn ystod beichiogrwydd: Sut i ddiogelu eich babi rhag y pâs

Ar y dudalen hon

Cefndir

Mae brechiad y pâs (pertwsis) yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog rhwng 16 a 32 wythnos yn ystod y beichiogrwydd i ddiogelu eu babanod rhag yr afiechyd difrifol hwn.

Mae'r pâs yn cael ei ledaenu drwy anadlu dafnau bach yn yr aer o beswch a thisian pobl eraill. Babanod iau na chwe mis oed sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Gall fod yn ddifrifol iawn ac arwain at niwmonia a niwed parhaol i'r ymennydd. Mae babanod ifanc sy’n dal y pâs mewn perygl o farw o'r afiechyd.

Mae'r warchodaeth a gewch ym mrechiad y pâs yn cael ei drosglwyddo i'ch babi heb ei eni ac yn diogelu’r babi yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, nes iddo gael ei imiwneiddiad arferol cyntaf pan fydd yn ddeufis oed. Mae'r brechiad hefyd yn eich diogelu chi rhag cael y pâs ac yn lleihau'r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i'ch babi.

Brechiad y pâs

Mae’r brechiad yma’n cael ei roi i helpu i'ch diogelu chi a'ch babi rhag y pâs.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechiad a'r afiechyd mae'n amddiffyn rhagddo yn GIG 111 Cymru - Brechiadau (gwefan allanol).

Pwy all gael brechiad y pâs

Brechu yn ystod beichiogrwydd

Gall pob menyw feichiog gael y brechiad, o wythnos 16 eu beichiogrwydd. Mae'n well cael y brechiad rhwng 16 a 32 wythnos yn ystod y beichiogrwydd. Gellir rhoi'r brechiad ar ôl 32 wythnos, ond gan fod angen amser ar y corff i wneud gwrthgyrff i'w trosglwyddo i'r babi heb ei eni, efallai na fydd yn rhoi'r un warchodaeth i'ch babi. Mae'n bwysig cael eich brechu ym mhob beichiogrwydd, hyd yn oed os ydych chi wedi cael y brechiad o'r blaen.

Os na chawsoch frechiad y pâs yn ystod eich beichiogrwydd, gallwch ei gael o hyd yn ystod y ddau fis ar ôl yr enedigaeth (hyd nes bydd eich plentyn yn cael ei ddos arferol cyntaf). Bydd hyn yn eich diogelu chi a gallai eich atal rhag dod yn ffynhonnell haint i'ch babi, er na fydd yn diogelu eich babi yn uniongyrchol. Os ydych chi'n bwydo ar y fron, nid oes tystiolaeth o unrhyw risg i'r babi.

Imiwneiddio babanod

Bydd angen i'ch babi gael ei frechu rhag y pâs o hyd pan fydd yn wyth wythnos oed. Mae brechiad y pâs yn cael ei gynnig i bob babi fel rhan o amserlen frechu arferol y GIG (brechiad ‘6 mewn 1’).

Mae’r Rhaglen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.

Gweithwyr gofal iechyd

Gall gweithwyr gofal iechyd fod yn ffynhonnell haint bwysig i fabanod. Mae gweithwyr gofal iechyd sydd â chyswllt uniongyrchol â menywod beichiog neu fabanod ac nad ydynt wedi cael brechiad y pâs yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn gymwys i gael brechiad fel rhan o'u gofal iechyd galwedigaethol.

Ynglŷn â brechiad y pâs

Nid oes tystiolaeth bod y brechiad yn risg i'r fenyw feichiog, y beichiogrwydd na'r babi. Nid yw’n frechiad byw, felly ni allwch gael y pâs ohono. Cynhaliwyd astudiaeth o bron i 18,000 o fenywod wedi'u brechu gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn 2014. Ni chanfu'r astudiaeth hon unrhyw risgiau i feichiogrwydd gyda'r brechiad, ac nid oedd cyfraddau babanod normal, iach yn wahanol i fenywod oedd heb eu brechu. Mae'r brechiadau'n hynod effeithiol ac mae ganddynt enw rhagorol o ran diogelwch.

Gan nad oes brechiad y pâs yn unig ar gael, mae'r brechiad sy’n cael ei roi hefyd yn diogelu rhag polio, difftheria a thetanws. Y brechiad fydd yn cael ei roi fydd naill ai Boostrix-IPV neu Repevax

Sut i gael eich brechu rhag y pâs

Bydd meddygfeydd a rhai clinigau cyn geni yn rhoi'r brechiad. Os ydych chi 16 wythnos yn feichiog ac nad ydych wedi cael cynnig y brechiad, siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddygfa i wneud apwyntiad i gael eich brechu.

Sgîl-effeithiau brechiad y pâs

Mae brechiadau'r pâs sy’n cael eu rhoi i fenywod beichiog yn cael eu goddef yn dda. Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw dolur a chochni yn safle'r pigiad. Dim ond ychydig ddyddiau ddylai hyn bara.

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, edrychwch ar:

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (gwefan allanol). Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am amau sgîl-effeithiau brechiadau a meddyginiaethau drwy'r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Arwyddion a symptomau'r pâs yn eich babi

Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau'r pâs yn eich babi. Gall y rhain gynnwys pyliau difrifol o beswch, a all gynnwys seibiau yn anadl babanod ifanc, taflu i fyny ar ôl peswch, a sŵn ‘hŵp’ wrth beswch. Os ydych chi’n poeni bod gan eich babi y pâs, dylech gysylltu â'ch meddyg ar unwaith.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechiad neu'r afiechyd mae'n gwarchod rhagddo, gallwch siarad â'ch bydwraig, y meddyg neu nyrs eich meddygfa. 

Mae ychydig o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Gwybodaeth bellach

Gwybodaeth Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr i’r cyhoedd (gwefan allanol)

GIG 111 Cymru - Brechiadau (gwefan allanol).