Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn fwy tebygol o gael rhai heintiau a salwch sy'n gallu bod yn niweidiol i chi a'ch babi sy'n datblygu.
Brechu yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o ddiogelu merched beichiog a'u babanod rhag afiechydon difrifol fel y pas, y ffliw a’r COVID-19.
Mae'r brechiad pertwsis (sy'n diogelu rhag y pas) a brechiadau’r ffliw a COVID-19 yn cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd er mwyn helpu i'ch cadw chi a'ch babi'n ddiogel.