Gall y pas fod yn haint difrifol iawn, yn enwedig i fabanod ifanc. Mae cael y brechiad yn ystod beichiogrwydd yn helpu i amddiffyn eich babi rhag y pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.
Mae tystiolaeth dda bod merched beichiog yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau os ydynt yn cael y ffliw, yn enwedig yng nghamau olaf eu beichiogrwydd.
Mae brechiad COVID-19 yn cael ei argymell yn gryf mewn beichiogrwydd, gan fod merched beichiog yn wynebu risg gynyddol o’r coronafeirws.