Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn Hepatitis B

Ar y dudalen yma: 

 

Cefndir

Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bobl y credir eu bod mewn mwy o berygl o gael hepatitis B neu o gael cymhlethdodau. Mae hefyd yn cael ei gynnig i blant fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio reolaidd. 

Mae Hepatitis B yn haint ar yr iau / afu sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis B, sy’n cael ei ledaenu drwy’r gwaed a hylifau’r corff. Yn aml nid yw’n achosi unrhyw symptomau amlwg mewn oedolion ac fel rheol mae’n pasio ymhen ychydig fisoedd heb driniaeth. Ond mewn plant mae'n aml yn parhau am flynyddoedd a gall achosi niwed difrifol i'r iau / afu yn y pen draw. Mae Hepatitis B yn llai cyffredin yn y DU na rhannau eraill o’r byd, ond mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl o’i ddal. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n wreiddiol o wledydd risg uchel, pobl sy'n chwistrellu cyffuriau, a phobl sy'n cael rhyw heb ddiogelwch gyda phartneriaid rhywiol lluosog.  

 

Brechlyn hepatitis B   

Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei roi i helpu i’ch amddiffyn chi neu eich babi rhag hepatitis B. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hepatitis B a'r brechlyn yn GIG 111 Cymru - Brechlynnau (safle allanol)

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn  

Imiwneiddio babanod  

Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG fel brechlyn 6-mewn-1. Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn cael ei gynnig i fabanod pan maent yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed. 

Mae’r amserlen imiwneiddio reolaidd gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.                

Er bod y risg o ddal hepatitis B yn isel yn y DU, mae plant ac oedolion sydd mewn grwpiau sydd â risg uwch o ddal hepatitis B hefyd yn cael cynnig y brechlyn. Os oes gennych chi’r haint pan rydych yn feichiog, mae eich babi mewn perygl o ddatblygu hepatitis B a rhoddir dosau ychwanegol o'r brechlyn iddo.   

 

Imiwneiddio ar gyfer pobl sydd â risg uwch o hepatitis B  

Brechlyn Hepatitis B yn ystod beichiogrwydd 

Gall haint Hepatitis B mewn merched beichiog fod yn ddifrifol i'r fam a gall achosi haint hirdymor i'r babi, felly mae'n bwysig iawn bod merched beichiog sydd â risg uchel o haint hepatitis B yn cael eu brechu. 

Nid oes tystiolaeth o unrhyw risg o frechu merched beichiog neu ferched sy’n bwydo ar y fron yn erbyn hepatitis B, gan ei fod yn frechlyn anweithredol (wedi’i ladd). 


Babanod sy'n cael eu geni i famau â hepatitis B 

Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio am hepatitis B i bob menyw. Mae angen rhoi dosau ychwanegol o'r brechlyn hepatitis B ar enedigaeth, yn bedair wythnos oed, ac yn 12 mis oed i fabanod sy'n cael eu geni i famau sydd wedi'u heintio â hepatitis B. 

Ystyrir bod rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn risg arbennig o uchel oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai babanod sy’n cael eu geni i’r mamau risg uchel hyn gael chwistrelliad o imiwnoglobwlin hepatitis B (HBIG) adeg eu geni. Mae HBIG wedi'i wneud o waed ac mae'n cynnwys gwrthgyrff i hepatitis B. Mae'n rhoi amddiffyniad cyflym ond nid yw'n para'n hir. Bydd angen brechlyn hepatitis B ar y babanod hyn hefyd er mwyn eu hamddiffyn yn y tymor hwy. 

Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed ar ôl 12 mis i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B. 


Brechlyn Hepatitis B ar gyfer y rhai y credir eu bod mewn perygl 

Mae pawb sydd mewn grŵp risg uchel yn cael cynnig y brechlyn hepatitis B hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol. 

  • Pobl sydd ag afiechyd cronig ar yr arennau (cam 4 a 5, gan gynnwys haemodialysis) 

  • Pobl sydd ag afiechyd cronig yr iau / afu (er enghraifft, y rhai sydd ag afiechyd difrifol yr yr iau / afu, fel sirosis o unrhyw achos, neu sydd ag afiechyd llai difrifol ar yr iau / afu ac a allai rannu ffactorau risg ar gyfer cael ei heintio â hepatitis B, fel pobl â hepatitis C cronig). 

  • Pobl sy'n derbyn gwaed neu gynhyrchion gwaed yn rheolaidd (er enghraifft, pobl â hemoffilia, thalasaemia neu anemia cronig arall), neu eu gofalwyr sy'n rhoi'r cynhyrchion hyn 

  • Pobl sy'n chwistrellu cyffuriau 

  • Partneriaid rhywiol, plant neu gysylltiadau teuluol neu gartref agos pobl sy'n chwistrellu cyffuriau 

  • Pobl sy'n newid partneriaid rhywiol yn aml, dynion sy'n cael rhyw gyda dynion neu weithwyr rhyw 

  • Cyswllt cartref, teuluol agos neu rywiol person â haint hepatitis B 

  • Aelodau o deulu sy'n mabwysiadu plentyn o wlad sydd â lefelau uchel neu ganolig o haint hepatitis B 

  • Aelodau agos o deulu neu unrhyw un sy'n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth tymor byr sy'n derbyn lleoliadau brys 

  • Aelodau agos o deulu neu unrhyw un sy'n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth parhaol sy'n derbyn plentyn sydd wedi’u heintio â hepatitis B 

  • Carcharorion mewn carchardai yn y DU, gan gynnwys os ydynt ar remand 

  • Pobl sy'n byw mewn llety ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu 

  • Oedolion neu blant sy'n mynychu gofal dydd, ysgolion a chanolfannau ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu ac yr aseswyd eu bod mewn perygl rheolaidd o haint drwy'r croen (fel drwy frathu neu gael eu brathu) 

  • Pobl sydd mewn mwy o berygl o gael hepatitis B oherwydd eu swydd 

  • Pobl sy'n teithio i wledydd sydd â lefelau uchel o hepatitis B 

 

Am y brechlyn 

Sut i gael eich brechu rhag hepatitis B 

Mae meddygfeydd a chlinigau iechyd rhywiol yn darparu’r brechlyn hepatitis B am ddim fel rheol os ydych chi mewn grŵp sydd mewn perygl. Ar gyfer babanod sy'n cael eu geni i famau risg uchel, mae eu dos cyntaf yn debygol o gael ei gynnig gan fydwraig neu feddyg yn yr ysbyty lle cânt eu geni. Os yw eich swydd chi’n eich rhoi chi mewn perygl o gael haint hepatitis B, cyfrifoldeb eich cyflogwr yw trefnu brechlyn i chi. Os ydych chi’n teithio i wlad risg uchel, efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi'r brechlyn i chi neu efallai y bydd angen i chi fynd i glinig iechyd teithio (efallai na fydd y GIG yn talu am gost y brechlyn). 


Sgîl-effeithiau 

Mae brechlynnau Hepatitis B yn cael eu goddef yn dda fel rheol. Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw dolur a chochni yn safle'r pigiad. 

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, edrychwch ar y canlynol  

 

Os ydych chi’n bryderus am unrhyw symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (safle allanol). Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau ymddangosiadol brechlynnau a meddyginiaethau drwy'r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).   

 

Gwybodaeth bellach 

Os hoffech chi gael gwybod mwy am hepatitis B a'r brechlyn, edrychwch ar y rhestr o daflenni isod. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.   

Ymddiriedolaeth yr Iau Prydain (safle allanol) 

GIG 111 Cymru – Vaccinations (safle allanol) 

Os ydych chi’n ystyried y brechlyn hwn fel rhan o ddiogelu eich iechyd er mwyn teithio, edrychwch ar ein tudalen Brechlynnau Teithio