Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn. Fel COVID-19, mae'n cael ei achosi gan feirws a gall arwain at salwch fel broncitis a niwmonia, a allai fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Mae cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn yn un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn yn erbyn y ffliw.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn, a gallent atal wythnosau o salwch difrifol.
Rhoddir brechlynnau ffliw mewn amgylchedd sy'n ddiogel o ran COVID-19.
Y gaeaf hwn efallai y gwelwn COVID-19 a'r ffliw yn cylchredeg ar yr un pryd, felly mae'n bwysig iawn cael eich amddiffyn.