Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r brechlyn

 


Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn. Fel COVID-19, mae'n cael ei achosi gan feirws a gall arwain at salwch fel broncitis a niwmonia, a allai fod angen triniaeth yn yr ysbyty.

Ceir achosion o ffliw bron bob gaeaf, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal.

Mewn gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy'n gysylltiedig â'r ffliw yn y DU.

Y gaeaf hwn efallai y gwelwn COVID-19 a'r ffliw yn cylchredeg ar yr un pryd, felly mae'n bwysig iawn cael eich amddiffyn.

Mae cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn yn un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn yn erbyn y ffliw.

Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn, a gallent atal wythnosau o salwch difrifol.

 

 

 

Oedolion

 

 

 

 

 

Plant a phobl ifanc

 

 

 

 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, ewch i 111.wales.nhs.uk, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs neu ffoniwch GIG 111 Cymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau ffliw, gan gynnwys eu cynhwysion a sgil-effeithiau posibl, yn www.medicines.org.uk/emc  Rhowch enw'r brechlyn yn y blwch chwilio.

Gallwch ddarganfod sut i roi gwybod am sgil-effeithiau tybiedig ar-lein yn www.mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm). 

Mae amserlen sy'n dangos pa imiwneiddio a gynigir fel mater o drefn yng Nghymru ar gael o 111.wales.nhs.uk/CompleteSchedule