Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i frechiadau i bobl ifanc

Mae brechiadau yn achub bywydau ac yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, maen nhw'n atal mwy na 3 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn. Mae brechu yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag afiechyd.

Mae brechiadau yn eich diogelu chi rhag afiechydon niweidiol cyn i chi ddod i gysylltiad â nhw. Maent yn helpu eich system imiwnedd i adeiladu amddiffyniad i rai heintiau peryglus. 

Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r brechiadau a roddir i bobl ifanc ym mlynyddoedd ysgol 7 i 11 (11 i 16 oed) a pham fod eu hangen.

 

Ffliw

Pryd?

Pam?

Sut i gael y brechiad

11 i 16 oed (blynyddoedd ysgol 7 i 11). Mae'n cael ei roi bob blwyddyn.

Mae'r brechiad ffliw yn cael ei gynnig i lawer o blant eraill hefyd.

Mae’r ffliw yn feirws a all arwain at salwch difrifol a marwolaeth. Mae achosion o’r ffliw yn bodoli y rhan fwyaf o aeafau ac mae’r feirws yn newid yn gyson. Bob blwyddyn, mae brechiadau’r ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â’r feirysau ffliw sy’n mynd o gwmpas y flwyddyn honno, fel bod pobl yn cael y warchodaeth orau rhag y ffliw.

 

Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael cynnig brechiad y ffliw yn yr ysgol, fel chwistrell trwyn.

Dim ond rhwng mis Medi a mis Mawrth bob hydref neu aeaf y rhoddir brechiadau’r ffliw.

I gael rhagor o wybodaeth am frechiad y ffliw, ewch i: icc.gig.cymru/brechlynffliw

 

Papilomafeirws Dynol (HPV)

Pryd?

Pam?

Sut i gael y brechiad

12 i 13 oed
(blwyddyn ysgol 8)

Mae brechiad HPV yn bwysig i atal amrywiaeth o ganserau yn nes ymlaen mewn bywyd, gan gynnwys canser ceg y groth a chanserau'r pen a'r gwddw. Mae cael y brechiad yn diogelu rhag risgiau yn y dyfodol.

 

Bydd pobl ifanc yn cael cynnig y brechiad HPV yn yr ysgol.

Yn y gorffennol, mae'r brechiad HPV wedi cael ei gynnig fel dau ddos. Mae tystiolaeth arbenigol bellach yn dangos bod un dos yn rhoi'r un lefel o warchodaeth i bobl ifanc â'r ddau ddos blaenorol. O fis Medi 2023 ymlaen, bydd y brechiad HPV yn cael ei gynnig fel un dos i bob merch a bachgen.

Os yw eich plentyn wedi methu ei frechiad HPV yn yr ysgol, gall ei gael o hyd, hyd at ei ben-blwydd yn 25 oed.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechiad HPV, ewch i: icc.gig.cymru/brechlynHPV

 

 

Tetanws, difftheria a pholio (brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau)

Pryd?

Pam?

Sut i gael y brechiad

13 i 14 oed
(blwyddyn ysgol 9)

Mae'r brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau yn helpu i hybu gwarchodaeth rhag tetanws, difftheria a pholio. Mae plant yn cael cynnig pedwar dos o frechiad i’w gwarchod rhag yr afiechydon hyn cyn eu bod yn bedair oed. Y brechiad atgyfnerthu i bobl ifanc yn eu harddegau yw'r pumed dos, a fydd yn rhoi gwarchodaeth gydol oes i'r rhan fwyaf o bobl.

Mae tetanws a difftheria yn afiechydon difrifol a all niweidio'r galon a'r system nerfol. Mae polio yn feirws sy'n ymosod ar y system nerfol a gall achosi parlys parhaol yn y cyhyrau. Mewn achosion difrifol, gall tetanws a pholio ladd.

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, bydd eich plentyn yn cael y brechiad atgyfnerthu

3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau yn yr ysgol. Mewn rhai ardaloedd lle nad yw'r brechiad yn cael ei roi yn yr ysgol, cewch eich gwahodd i'w gael yn eich meddygfa.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1, ewch i: icc.gig.cymru/brechlyn3mewn1

 

Llid yr ymennydd a septisemia (MenACWY)

Pryd?

Pam?

Sut i gael y brechiad

13 i 14 oed
(blwyddyn ysgol 9)

Mae’r brechiad MenACWY yn darparu gwarchodaeth dda rhag heintiau difrifol a achosir gan afiechydon meningococol (Men) A, C, W ac Y.

Mae afiechyd meningococol fel arfer yn digwydd fel llid yr ymennydd neu septisemia (gwenwyn yn y gwaed). Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr, ond mae rhai heintiau yn arbennig o ddifrifol. Gallant fod yn angheuol ac arwain at niwed parhaol i'r ymennydd neu'r nerfau.

 

Mae'r brechiad MenACWY yn cael ei gynnig ar yr un pryd â'r brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau.

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, mae plant yn cael y brechiad yn yr ysgol. Mewn rhai ardaloedd, byddant yn cael eu gwahodd i'w gael yn eu meddygfa.

Os yw eich plentyn wedi methu ei frechiad MenACWY yn yr ysgol, gall gael y brechiad o hyd, hyd at ei ben-blwydd yn 25 oed.

I gael rhagor o wybodaeth am frechiad MenACWY, ewch i: icc.gig.cymru/brechlynMenACWY

 

Unrhyw beth arall ddylwn i ei wybod?

Bob tro y cynigir brechiadau yn yr ysgol, byddwch yn derbyn ffurflen ganiatâd i'w llofnodi, yn rhoi caniatâd i'ch plentyn gael y brechiad. Mae pobl ifanc sy'n deall yn llawn yr hyn sydd dan sylw hefyd yn gallu, yn gyfreithiol, gwneud penderfyniad gwybodus i roi eu caniatâd.

Gall plant a phobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol neu sy'n cael eu haddysgu gartref gael pob un o'r brechiadau yn y tabl uchod yn eu meddygfa pan mae’n amser eu rhoi.


MMR

Mae’n syniad da gwirio bod yr holl frechiadau plentyndod eraill yn gyfredol, gan gynnwys MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela).

Mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn afiechydon heintus iawn sy'n gallu lledaenu'n hawdd rhwng pobl heb eu brechu. Gall yr afiechydon hyn arwain at gymhlethdodau meddygol difrifol, a allai fod yn angheuol, gan gynnwys llid yr ymennydd, enseffalitis (chwydd yn yr ymennydd) a cholled clyw. Mae angen 2 ddos o'r brechiad MMR ar eich plentyn er mwyn iddo gael ei warchod rhag yr afiechydon hyn. Gallwch wirio ei lyfr coch neu gysylltu â'ch meddygfa i weld a yw ei frechiadau'n gyfredol. Efallai y bydd eich plentyn yn cael cynnig brechiadau MMR a fethwyd yn yr ysgol, ond, os na chaiff gynnig hynny, gall eu cael yn ei feddygfa.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechiad MMR, ewch i icc.gig.cymru/brechlynMMR


COVID-19

Mae pob person ifanc wedi cael cynnig brechiadau COVID-19. Mae pobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o COVID-19 wedi cael cynnig dosau atgyfnerthu hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am y brechiad COVID-19, ewch i icc.gig.cymru/brechlyncovid

 

Ble mae cael mwy o wybodaeth?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i 111.wales.nhs.uk, siarad â'ch meddyg, nyrs yr ysgol neu'r nyrs yn eich meddygfa, neu ffonio GIG 111 Cymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechiadau a gynigir yng Nghymru yn icc.gig.cymru/brechlynnau

Mae amserlen sy’n dangos pa frechiadau sy’n cael eu cynnig fel mater o drefn yng Nghymru ar gael yn: icc.gig.cymru/amserlengyflawn  

Gallwch gael gwybod sut mae’r GIG yn defnyddio’ch gwybodaeth yn 111.wales.nhs.uk/amdanomni/eichgwybodaeth

 

 

Mai 2023 © Ymddiriedolaeth y GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru Fersiwn 1 ISBN: