Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiadau blynyddol gwyliadwriaeth ffliw a brechu rhag y ffliw

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn monitro canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio rhag ffliw tymhorol bob blwyddyn.

Yn ystod pob rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw (rhwng mis Hydref a mis Mawrth fel arfer), rhoddir crynodeb o ganran y rhai sy'n cael eu himiwneiddio bob wythnos yn yr adroddiad wythnosol ar weithgarwch ffliw yng Nghymru. Cyflwynir y ffigurau terfynol bob blwyddyn ar ddiwedd y tymor ffliw mewn adroddiad blynyddol, sydd hefyd yn cynnwys crynodeb epidemiolegol o'r tymor.

Yr adroddiad mwyaf diweddar

Tymor y ffliw 2019-20 yng Nghymru

Prif bwyntiau'r adroddiad 2019/20

  • Yn ystod 2019/20 roedd cyfnod byrrach o weithgarwch ffliw o'i gymharu ag unrhyw un o'r chwe thymor ffliw blaenorol.
  • Roedd cleifion canol oed i hŷn yn fwy tebygol o fod yn achosion wedi'u cadarnhau o ffliw mewn ysbytai.
  • Ffliw A(H3N2) oedd y feirws ffliw amlycaf y tymor hwn, wedi'i ddilyn gan ffliw A(H1N1)pdm09. Canfuwyd niferoedd bach o ffliw B hefyd drwy gydol y tymor.
  • Roedd canran y rhai a gafodd frechlyn ffliw yn 69.4% yn y rhai 65 oed a throsodd, o gymharu â 68.3% y tymor diwethaf a dyma'r ganran uchaf erioed yn y grŵp hwn.
  • Roedd canran y rhai a gafodd eu brechu yn 44.1% mewn cleifion iau na 65 oed mewn un neu fwy o grwpiau risg clinigol, mae hyn y sefydlog o gymharu â 2018/19. Roedd canran y rhai a gafodd eu brechu ymhlith grwpiau risg clinigol yn uwch mewn cleifion â diabetes (58.8%) ac ar ei hisaf yn y rhai a oedd yn afiachus o ordew (34.8%). 
  • Roedd canran y rhai a gafodd frechlyn ffliw mewn menywod beichiog yn 78.5% (wedi'i mesur mewn arolwg blynyddol o fenywod mewn prif unedau mamolaeth ym mis Ionawr 2020) a dyma'r ganran uchaf erioed a welwyd yn y grŵp hwn.
  • Canran y rhai a gafodd eu himiwneiddio rhag ffliw mewn Byrddau Iechyd a staff y GIG, a gofnodwyd gan Adrannau Iechyd Galwedigaethol Byrddau Iechyd oedd 56.0% yn ystod 2019/20. Canran y rhai a gafodd eu himiwneiddio mewn staff â chyswllt uniongyrchol â chleifion oedd 58.9%, yn fwy na 60% mewn pedwar Bwrdd Iechyd a dwy Ymddiriedolaeth GIG.
  • Cafodd cyfanswm o 64,085 o bobl eu himiwneiddio rhag ffliw mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2019/20, gyda 57% o'r imiwneiddio'n cael ei roi i'r rhai 65 oed a throsodd.
  • Cafwyd brechiad rhag ffliw gan fwy o unigolion mewn grwpiau a oedd yn wynebu risg a grwpiau a argymhellwyd y tymor diwethaf nag erioed o'r blaen, amcangyfrifir bod 876,062 o bobl wedi'u brechu (tua 28% o’r boblogaeth yng Nghymru), o gymharu â 868,688 y tymor diwethaf.
Ffeithlun cryno adroddiad 2019/20:

 

Adroddiadau hanesyddol