Ar y dudalen hon
Mae brechlyn y ffliw yn un o’r ffyrdd gorau o ddiogelu rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Argymhellir yn gryf bod staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael y brechlyn bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn diogelu eu hunain, eu cydweithwyr, eu teuluoedd a'r rhai yn eu gofal. Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i hwyluso'r brechlyn ar gyfer eu staff.
Mae holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru yn annog eu staff i gael brechlyn y ffliw bob blwyddyn.
Mae brechlyn y ffliw y GIG ar gael am ddim i staff mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion, cartrefi nyrsio a hosbisau plant sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid, ac i ofalwyr yn y cartref. Mae ar gael o fferyllfeydd cymunedol sy'n cynnig Gwasanaeth Brechu Rhag y Ffliw Tymhorol Fferylliaeth Gymunedol y GIG, ac mewn rhai ardaloedd efallai y bydd ar gael drwy ddulliau eraill hefyd.
Gellir gweld mwy o ganllawiau ac adnoddau ar y dudalen Y ffliw - Gwybodaeth i weithwyr iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth a Influenza (staff GIG Cymru).
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza)
Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau a chlefydau trwy'r dudalen E-ddysgu .
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi .
Mae gwybodaeth gwyliadwriaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod: