Mae staff cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG, ac mae hyn fel arfer yn cael ei roi yn eu fferyllfa gymunedol.
Mae gweithwyr gofal cartref yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG, ac mae hyn fel arfer yn cael ei roi yn eu fferyllfa gymunedol.
Dylai gweithwyr gofal iechyd gael eu brechlyn ffliw drwy eu cyflogwr.
Argymhellir bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y GIG sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion/cleientiaid yn cael brechiad blynyddol i amddiffyn eu hunain a'r rhai sydd dan eu gofal.
Pan fyddwch yn gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, mae gennych gyfrifoldeb i amddiffyn eich cleifion/cleientiaid rhag cael eu heintio. Mae hyn yn cynnwys brechu rhag y ffliw.
Mae brechu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn helpu i leihau lefel yr absenoldeb oherwydd salwch ac yn cyfrannu at gadw'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol i redeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ymateb i bwysau'r gaeaf.>
Dylai cyflogwyr gofal iechyd, gan gynnwys contractwyr gofal sylfaenol, fynd ati i hyrwyddo manteision cadarnhaol brechu rhag y ffliw i weithwyr drwy roi gwybodaeth gytbwys a ffeithiol gywir i staff mewn modd amserol, ac annog a chefnogi eu staff cymwys i gael eu brechu.
Mae cydweithwyr gofal iechyd yng Nghymru yn cael eu cynghori i fynd i safle Mewnrwyd Imiwneiddio a Brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru (mae angen cysylltiad rhwydwaith GIG Cymru).