Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi'n feichiog, neu'n hŷn. Yn gyffredinol, yr un bobl sy'n wynebu risg uchel o COVID-19 â'r rhai sydd mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn gyda'r ffliw.

Gall y ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc.

Y llynedd yng Nghymru, cafodd mwy na miliwn o bobl eu brechiad ffliw. Mae hynny tua un o bob tri pherson.

 

Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iach, rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o’r ffliw os byddwch yn ei ddal, ac fe’ch cynghorir i gael brechiad y ffliw os:

  • Rydych chi'n feichiog
  • Rydych chi'n 65 oed neu'n hŷn
  • Rydych chi rhwng chwe mis a 64 oed ac mae gennych gyflwr iechyd tymor hir sy’n eich rhoi mewn mwy o berygl o’r ffliw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • Diabetes
    • Problem gyda’r galon
    • Cwyn gyda’r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma sydd angen mewnanadlydd steroid neu dabledi rheolaidd
    • Clefyd yr arennau (o gam 3)
    • Imiwnedd is oherwydd afiechyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos â phobl yn y grŵp hwn)
    • Clefyd yr iau / afu
    • Wedi cael strôc neu strôc fechan
    • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd motor niwron
    • Dueg ar goll neu broblem gyda’r dueg
    • Anabledd dysgu
    • Salwch meddwl difrifol
    • Gordewdra difrifol (gordewdra dosbarth III). Diffinnir hyn fel y rhai â Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu uwch, 16 oed neu hŷn.
    • Epilepsi
  • Rydych chi'n byw mewn cartref gofal
  • Rydych chi’n ddigartref 

 

Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechiad y ffliw i'w hamddiffyn nhw a'r bobl o'u cwmpas:

  • Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2023)
  • Plant a phobl ifanc yn yr ysgol o'r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11
  • Gofalwyr
  • Pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion/chleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu cymorth cyntaf brys wedi'i gynllunio
  • Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan  

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn gan mai dyma’r brechiad ffliw gorau iddyn nhw. Mae'n ddafnau mân sy’n cael eu chwistrellu i fyny'r trwyn ac mae posib ei roi o ddwy oed.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechiad y ffliw, dylai ei feddygfa neu nyrs yr ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechiad, cysylltwch â'r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol, neu'r feddygfa os nad yw yn yr ysgol.

Os ydych chi’n meddwl efallai eich bod wedi methu’r gwahoddiad i gael brechiad y ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch fferyllfa gymunedol.

 

Sut i gael brechiad y ffliw

Grŵp cymwys Ble i gael eich brechiad y ffliw
Plant dwy neu dair oed (oedran ar 31 Awst 2023)  Meddygfa (DS, mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed yn cael cynnig y brechiad mewn meithrinfa)
Plant ysgolion cynradd ac uwchradd  Ysgol gynradd ac uwchradd
Plant rhwng 6 mis a dan 18 oed â chyflwr iechyd tymor hir Meddygfa (DS. bydd plant oedran ysgol gynradd ac uwchradd yn cael cynnig eu brechiad ffliw yn yr ysgol)
Merched beichiog  Meddygfa, rhai fferyllfeydd cymunedol neu, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan eu bydwraig
Cyflyrau iechyd tymor hir (oedolion) Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol 

Pobl 65 oed a hŷn

Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol 
Gofalwyr di-dâl  Meddygfa neu rai fferyllfeydd cymunedol 
Gofalwyr cartref Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill)
Staff gofal cartref Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, mae trefniadau eraill)
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol  Drwy gyflogwr

 

Oedolion

 

Plant a phobl ifanc