Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun diogel ac effeithiol iawn sy'n amddiffyn yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.
Ar y dudalen hon
Y brechlyn MMR yw'r ffordd fwyaf diogel a effeithiol o helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (a elwir hefyd yn frech goch yr Almaen). Ers iddo gael ei gyflwyno ym 1988, mae'r clefydau hyn wedi dod yn brin yn y DU. Ond weithiau ceir brigiadau o achosion (yn enwedig achosion o'r frech goch), pan nad yw digon o bobl yn cael eu brechu.
Mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn glefydau sy'n lledaenu'n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi cael y brechlyn. Mae'r clefydau hyn fel arfer yn ysgafn, ond weithiau gallant achosi problemau difrifol, gan gynnwys:
Gall rwbela (brech goch yr Almaen) arwain at broblemau difrifol yn ystod beichiogrwydd. Os bydd menyw feichiog yn cael rwbela, gall niweidio ei babi yn y groth a gallai achosi camesgoriad.
Gall rhai pobl farw o’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela, hyd yn oed. Yn y gorffennol, bu farw tua un o bob 5000 o bobl a ddaliodd y frech goch o'r clefyd.
Mae cael eich brechu yn bwysig.
Gall hyd yn oed ostyngiad bach yn nifer y bobl sy'n cael y brechiad MMR arwain at fwy o achosion o'r frech goch. Gan fod pobl yn teithio mwy nawr, mae siawns uwch y bydd y frech goch yn dod yn ôl o wledydd eraill, lle mae'n gyffredin.
Cael dau ddos o'r brechlyn MMR yw'r ffordd orau o'ch amddiffyn chi a'ch plentyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.