Neidio i'r prif gynnwy

Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B (DTaP/IPV/Hib/HepB, neu'r brechlyn '6-mewn-1')

Mae’r brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB, sy’n cael ei adnabod yn gyffredin hefyd fel y ‘brechlyn 6-mewn-1’, yn helpu i warchod eich babi rhag chwe afiechyd difrifol: Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae’r brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB, sy’n cael ei adnabod yn gyffredin hefyd fel y ‘brechlyn 6-mewn-1’, yn helpu i warchod eich babi rhag chwe afiechyd difrifol: Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B.

Difftheria

Mae difftheria yn afiechyd difrifol sydd fel rheol yn dechrau gyda dolur gwddw a gall achosi problemau anadlu yn gyflym. Gall niweidio'r galon a'r system nerfol ac, mewn achosion difrifol, gall ladd. Mae'n brin yn y DU, fodd bynnag mae'n bosibl ei ddal wrth deithio mewn gwahanol ranbarthau o'r byd.

GIG 111 Cymru -  Difftheria (tudalen allanol)

Tetanws

Mae tetanws yn afiechyd sy'n effeithio ar y system nerfol a all achosi sbasmau yn y cyhyrau a phroblemau anadlu a gall lladd. Mae'n cael ei achosi pan fydd bacteria a geir mewn pridd a thail yn mynd i mewn i'r corff drwy friwiau agored.

GIG 111 Cymru - Tetanws (tudalen allanol)

Y pas

Mae'r pas (pertwsis) yn cael ei achosi gan fath o facteria. Mae'n haint bacterol ar yr ysgyfaint a'r tiwbiau anadlu, a gall achosi pyliau hir o beswch a thagu, gan wneud anadlu'n anodd. Mae'r pas yn lledaenu'n hawdd iawn.

NHS 111 Wales - Whooping cough (external site)

Polio

Mae polio yn feirws sy'n gallu ymosod ar y system nerfol a gall achosi parlys parhaol yn y cyhyrau. Os yw'n effeithio ar gyhyrau'r frest neu'r ymennydd, gall polio ladd. Roedd polio yn gyffredin unwaith yn y DU a ledled y byd. Mae bellach yn brin oherwydd bod modd ei atal gyda brechlyn.

GIG 111 Cymru - Polio (tudalen allanol)

Hib

Mae Hib yn haint bacterol a achosir gan Haemophilus influenzae math b a all achosi sawl salwch difrifol, gan gynnwys sepsis (gwenwyn yn y gwaed), niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) a llid yr ymennydd (chwyddo yn yr ymennydd), yn enwedig mewn plant ifanc.

Gall y salwch a achosir gan Hib ladd os na chaiff ei drin yn gyflym.

GIG 111 Cymru - Hib (tudalen allanol)

Hepatitis B

Mae Hepatitis B yn feirws sy'n heintio'r iau / afu a gall arwain at afiechyd difrifol ar yr iau/afu. Yn aml nid yw'n achosi unrhyw symptomau amlwg mewn oedolion. Mewn plant mae'n aml yn parhau am flynyddoedd a gall achosi niwed difrifol i'r iau / afu yn y pen draw.

NHS 111 Wales  - Hepatitis B (tudalen allanol)

Y brechlyn 6 mewn 1

Mae’r brechlyn ‘6-mewn-1’ yn un o’r brechlynnau cyntaf y bydd eich babi yn ei gael.  

Mae’n hynod effeithiol am ddarparu imiwnedd rhag heintiau difftheria, tetanws, y pas, polio, Hib, a hepatitis B.

GIG 111 Cymru - Brechiadau (tudalen allanol)

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Imiwneiddio babanod

Mae’n bwysig cynnig gwarchodaeth i fabanod cyn gynted â phosibl, oherwydd gallant ddal yr afiechydon difrifol hyn o enedigaeth.

Mae’r brechlyn ‘6-mewn-1’ (DTaP/IPV/Hib/HepB) yn cael ei gynnig yn rheolaidd i fabanod yn 8, 12 ac 16 wythnos oed.

Imiwneiddio mewn beichiogrwydd

Mae’r brechlyn ‘4-mewn-1’ yn cael ei gynnig i ferched beichiog rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd er mwyn helpu i warchod y babi rhag y pas yn ystod misoedd cyntaf ei fywyd cyn iddo gael ei frechlynnau cyntaf.

Anafiadau sy’n agored i detanws

Mae’n bosibl y bydd babanod sydd â briw sy’n agored i gael tetanws (edrychwch ar y pwyntiau bwled isod) yn cael cynnig dos o’r brechlyn ‘6-mewn-1’.

Cysylltwch â meddyg teulu neu ewch i’r adran mân anafiadau neu’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf os ydych chi’n pryderu am friw, yn enwedig:

  • Os yw’n friw dwfn
  • Os oes baw neu rywbeth y tu mewn i'r briw
  • Os nad yw eich plentyn wedi'i frechu'n llawn ar gyfer tetanws, neu os nad ydych yn siŵr.

Bydd meddyg yn asesu'r briw ac yn penderfynu a oes angen triniaeth. Os nad yw’r unigolyn wedi’i frechu'n llawn ar gyfer tetanws, gellir rhoi dos o frechlyn sy'n cynnwys tetanws.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y brechlyn ‘6-mewn-1’, neu os ydych chi’n ansicr ynghylch pryd dylid ei roi, gallwch gysylltu â’ch meddygfa am gyngor.

 

Am y brechlyn 6 mewn 1

Fel rheol bydd babanod yn cael y brechlyn ‘6-mewn-1’ fel pigiad unigol yn rhan uchaf eu coes (clun). Bydd plant rhwng un a 10 oed sydd wedi methu'r brechlynnau hyn yn eu cael fel arfer yn rhan uchaf eu braich.

Mae’r brechlyn ‘6-mewn-1’ sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU yn cael ei adnabod o dan yr enw brand Infanrix hexa a Vaxelis.

Os yw eich babi neu eich plentyn wedi methu apwyntiad ar gyfer y brechlyn ‘6-mewn-1’ siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am gyngor.

Ceir gwybodaeth am frechlynnau atgyfnerthu i warchod rhag difftheria, tetanws, pertwsis, polio a Hib ar y tudalennau canlynol:

Mae gwybodaeth ar gyfer grwpiau ‘mewn perygl’ ar gael yn: imwineiddio heb fod yn rheolaidd .

Sgîl-effeithiau y brechlyn 6 mewn 1

Er ei fod yn ddiogel iawn, gall y brechlyn ‘6-mewn-1’ fel brechlynnau eraill fod â sgîl-effeithiau. Mae’r sgîl-effeithiau cyffredin yn cynnwys y canlynol:

  • poen, cochni a chwyddo yn safle'r pigiad
  • tymheredd uchel
  • taflu i fyny
  • crïo abnormal  
  • anniddig
  • dim awydd bwyd.

Mae adweithiau eraill yn brin. Am fwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau cyffredin a phrin ewch i:

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn 4 mewn 1 neu'r afiechydon y mae'n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

 

Gwybodaeth bellach

GIG 111 Cymru: Brechiadau (tudalen allanol)