Ar y dudalen hon
Mae’r ffliw yn hynod heintus ac yn achosi haint feirol acíwt ar y llwybr anadlol. Mae'r feirws hwn yn cael ei ledaenu drwy ddafnau, aerosol neu gyswllt uniongyrchol â hylifau anadlol gan unigolyn sydd wedi’i heintio. Y cyfnod deor arferol yw un i dri diwrnod.
Ar gyfer unigolion iach, mae'r ffliw yn annymunol ond fel rheol yn bosib ei reoli, gydag adferiad rhwng dau a saith diwrnod. Mae rhai pobl mewn mwy o berygl iddo achosi salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth. Gall cymhlethdodau’r ffliw gynnwys y canlynol:
Ymhlith y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol oherwydd y ffliw mae:
Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau ffliw sydd ar gael yn y DU yn anweithredol ac eithrio’r brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV) – dyma’r brechlyn sy’n cael ei roi i’r rhan fwyaf o blant cymwys. Yr enw brand ar gyfer y LAIV sydd ar gael yn y DU yw Fluenz®Tetra. Mae LAIV yn cynnwys feirysau byw sydd wedi'u gwanhau a'u haddasu'n oer fel mai dim ond yn nhymheredd is y llwybrau trwynol y gallant atgynhyrchu.
Oherwydd natur gyfnewidiol feirysau’r ffliw, a newidiadau yn y straen sy'n cylchredeg ac yn achosi afiechyd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn monitro epidemioleg feirysau'r ffliw ledled y byd ac yn gwneud argymhellion blynyddol ynghylch pa straen y dylid ei chynnwys ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi argymhellion ar gyfer cyfansoddiad feirol brechlynnau'r ffliw ar gyfer y tymor ffliw 2022-23 yn hemisffer y gogledd.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza)
Brechiad rhag y ffliw ymhlith staff gofal iechyd Canllawiau gwahodd 2022/23
Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau a chlefydau trwy'r dudalen E-ddysgu .
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi .
Siart Rheoli ICC ar gyfer brechiad y ffliw i unigolion ag alergedd i wyau. Medi 2022. [Ychwanegwyd 3 Hydref 2022]
Mae’r templedi PGDs ar gyfer brechiad y ffliw ar gael ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Mae gwybodaeth gwyliadwriaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod: