Neidio i'r prif gynnwy

Sblenectomi, asplenia a diffyg sblenig


Ar y dudalen yma
 - Cefndir
 - Beth mae'r ddueg yn ei wneud?
 - Beth ddylech chi ei wneud os nad oes gennych chi ddueg?
 - Brechlynnau
 - Gwybodaeth bellach

 
Cefndir

Mae sblenectomi yn llawdriniaeth i dynnu’r ddueg. Efallai y bydd arnoch chi angen sblenectomi am y rhesymau canlynol:

  • nid yw eich dueg yn gweithio’n iawn
  • mae eich dueg wedi cael ei heffeithio gan anaf neu haint, neu
  • mae’n fwy o ran maint (wedi chwyddo) ac yn achosi problemau (er enghraifft, mae’n cael gwared ar gelloedd gwaed coch yn ogystal â hen rai sydd wedi’u niweidio).

Termau eraill sy’n cael eu defnyddio:

  • asplenia (dim dueg), neu
  • diffyg sblenig – pan nad yw’r ddueg yn gweithio’n iawn.              

Mae'r ddueg yn organ maint dwrn yn ochr chwith uchaf eich abdomen chi, wrth ymyl eich stumog a thu ôl i'ch asennau.

Mae'n rhan bwysig o'ch system imiwnedd chi, ond fe allwch chi oroesi hebddi. Mae hyn oherwydd bod yr iau / afu yn gallu cyflawni llawer o swyddogaethau'r ddueg.

Mae gan bobl heb ddueg, neu sydd â diffyg ar y ddueg, fwy o risg o ddatblygu heintiau difrifol fel niwmonia, septisemia (gwenwyn yn y gwaed) a llid yr ymennydd.

 

Beth mae’r ddueg yn ei wneud?

Mae gan y ddueg rai swyddogaethau pwysig.

  • Mae’n ymladd yn erbyn germau yn y gwaed (mae’r ddueg yn cynnwys celloedd gwaed gwyn, sy’n ymladd yn erbyn haint).
  • Mae’n rheoli lefel y celloedd yn y gwaed (celloedd gwaed gwyn, celloedd gwaed coch a phlatennau).

Mae’n hidlo’r gwaed ac yn cael gwared ar unrhyw hen gelloedd gwaed coch ac wedi’u niweidio.

 

Beth ddylech chi ei wneud os nad oes gennych chi ddueg?

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael yr holl frechlynnau sy’n cael eu cynnig (siaradwch â’ch meddyg neu nyrs eich practis), neu edrych ar GIG 111 Cymru. (Tudalen allanol yw hon ac nid yw’n cael ei monitro gennym ni.)

Mae angen rhywfaint o imiwneiddio ychwanegol ar bobl ag asplenia neu ddiffyg sblenig. Holwch eich meddyg teulu, nyrs y practis neu ymwelydd iechyd.

Atgoffwch eich meddyg a'ch deintydd nad oes gennych chi ddueg.

Cymerwch eich meddyginiaethau fel y nodwyd.

Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi haint, dylech gysylltu â’ch meddyg ar unwaith. Gall arwyddion haint gynnwys: tymheredd uwch, dolur gwddw, peswch heb esboniad, poen yn yr abdomen, cur pen gyda blinder mawr, neu frech.

Rhaid i chi gael sylw meddygol os cewch eich brathu gan anifail.

Diogelwch eich hun rhag malaria os ydych chi’n teithio i wledydd lle mae risg o haint.

Cariwch gerdyn gyda chi neu wisgo dull adnabod / breichled neu gadwen i roi gwybod i bobl eraill mewn argyfwng.

 

Brechlynnau

Holwch eich meddygfa i weld a ydych chi wedi cael eich holl frechlynnau sydd ar gael o dan y GIG.

Dylech hefyd gael eich brechu rhag y canlynol:       

 

Gwybodaeth bellach

Gallwch gael gwybod mwy am y brechlynnau sy’n cael eu cynnig yng Nghymru yn: phw.nhs.wales/vaccines neu phw.nhs.wales/vaccines/accessible-information

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth, gallwch edrych ar 111.wales.nhs.uk, siarad â’ch meddyg neu eich nyrs neu ffonio GIG 111 Cymru. (Tudalen allanol yw hon ac nid yw’n cael ei monitro gennym ni.)