Ar y dudalen hon
Mae brech M (a elwid gynt yn frech y mwncïod) yn glefyd prin a achosir gan y feirws brech M. Mae'r salwch yn lledaenu trwy gyswllt agos rhwng pobl. Mae'r risg o ddal brech M yng Nghymru yn isel ar hyn o bryd.
Mae brigiadau o achosion o frech M wedi digwydd yn bennaf yng Nghanolbarth a Dwyrain Affrica. Fodd bynnag, ers 2022, mae'r feirws wedi lledaenu i wledydd eraill, yn cynnwys y DU.
Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag brech M. Yng Nghymru, mae'r GIG yn cynnig y brechlyn ar sail fesul achos i Ddynion Hoyw, Deurywiol a Dynion eraill sy'n cael Rhyw gyda Dynion (GBMSM) sy'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf yn y rhestr isod.
Gall pobl sydd â chysylltiad agos ag aelodau’r gymuned GBMSM sydd mewn perygl o gael brech M hefyd gael y brechlyn. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Gweithredwch: Os ydych chi'n meddwl eich bod chi mewn perygl, trefnwch apwyntiad gyda'ch gwasanaeth iechyd rhywiol.
I gael rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol, yn cynnwys cyngor a phrofion yn eich ardal chi, ewch i: www.ircymru.online (safle allanol)
Mae rhestr o wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru i'w gweld yma: GIG 111 Cymru - Canlyniadau (safle allanol)
Os hoffech ddysgu rhagor am y brechiad neu'r clefyd y mae'n ei amddiffyn yn ei erbyn, mae ychydig o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.