Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, yn amlygu sut mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) yn cael eu profi ar draws cenedlaethau. Roedd yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn Amddiffyn ac Ymarfer Plant yn dadansoddi data a gasglwyd oddi wrth 294 o dadau rhwng 18 a 69 oed mewn carchar yng Nghymru.
Mae'r adroddiadau blynyddol diweddaraf ar y rhaglenni iechyd deintyddol cyhoeddus a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yng Nghymru wedi dangos bod y rhaglenni wedi adfer yn dda o'r oedi yn ystod y pandemig.
Mae'r adroddiadau blynyddol diweddaraf ar y rhaglenni iechyd deintyddol cyhoeddus a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yng Nghymru wedi dangos bod y rhaglenni wedi adfer yn dda o'r oedi yn ystod y pandemig.
Mae mwy na 650,000 o fabanod wedi elwa o’r rhaglen sgrinio clyw babanod newydd-anedig yng Nghymru, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 y mis hwn.
Mae gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cynyddu, gan wrthdroi dirywiad a ddechreuodd yn 2017. Mae bellach yn debyg i lefelau cyn-bandemig, yn ôl data newydd ar ddisgyblion yng Nghymru o ganlyniadau iechyd Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN). ac arolwg llesiant a ryddhawyd heddiw.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal asesiad risg iechyd pellach o ddata ansawdd aer a gasglwyd yng ngorsaf fonitro Ysgol Spital, ar gyfer y cyfnod rhwng 27 Awst a 30 Medi 2024.
O 9 Hydref, bydd pobl 50 oed yng Nghymru yn dod yn gymwys i gael prawf sgrinio’r coluddyn drwy’r GIG. Bydd y rhai sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn derbyn pecyn prawf sgrinio’r coluddyn am ddim yn awtomatig bob dwy flynedd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu’r dangosyddion yn offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
Gall ffliw beryglu bywyd pobl sydd â chyflyrau iechyd penodol. Dyna pam mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog y rhai sy'n wynebu risg glinigol i sicrhau eu bod yn cael eu brechu yn erbyn ffliw yn ogystal â COVID-19 yr hydref hwn.
Mae adolygiad cyflym o'r llenyddiaeth bresennol sy'n edrych ar effeithiolrwydd mesurau rhoi'r gorau i smygu a dargedwyd yn benodol at bobl sy'n byw gydag iselder a/neu orbryder, wedi dangos darlun cymysg.