Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Cynnydd da yn erbyn cynllun gweithredu atal gordewdra gofal sylfaenol – adroddiad newydd

Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn erbyn cynllun gweithredu i wella cymorth rheoli pwysau mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae pobl Cymru angen mwy o gyfleoedd i amddiffyn eu lles meddyliol

Rydych chi'n fwy tebygol o adrodd am lesiant meddyliol gwaeth os ydych chi'n ifanc, yn fenyw, yn perthyn i grŵp ethnig lleiafrifol, os oes gennych anabledd neu os yw’ch iechyd yn wael. Dyna ganfyddiad arolwg o dros 1,200 o bobl yng Nghymru.

Yr amgylchedd bwyd yn hytrach na diffyg gwybodaeth yw'r rhwystr mwyaf i weithredu ar bwysau

Ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol yw'r prif rwystrau sy'n atal pobl rhag gweithredu ar eu pwysau, yn hytrach na diffyg gwybodaeth neu sgiliau, yn ôl arolwg diweddaraf Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y blynyddoedd cynnar wedi'u nodi i helpu i gefnogi teuluoedd ifanc yng Nghymru

Mae adroddiad o’r rhaglen 1000 o Ddiwrnodau Cyntaf yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi chwe maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ac yn dweud y gall gwneud newidiadau bach i’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud yn y meysydd hyn sicrhau gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ledled Cymru.

Sêr Cymru yn ôl ymgyrch fyd-eang i rybuddio pobl am beryglon gorddefnyddio gwrthfiotigau

Mae Nigel Owens, cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol Cymru, a Millie-Mae Adams, sef Miss Cymru, ill dau yn siarad am un o brif achosion marwolaeth yn fyd-eang. 

Mae pecyn prawf sy'n cael ei anfon i'r cartref yn ei gwneud hi'n hawdd gwybod statws HIV

Mae arweinwyr cymunedol yn annog pobl sy’n cael rhyw yng Nghymru i archebu pecyn profi cyfrinachol am ddim gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Asesiad Risg Iechyd, Withyhedge

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i werthuso data ansawdd aer, i wella ein dealltwriaeth o’r potensial ar gyfer niwed i iechyd pobl sy’n byw o amgylch safle tirlenwi Llwynhelyg.

Mae datrys diabetes gyda'n gilydd yn allweddol er mwyn i bobl fyw bywydau hirach, iachach yng Nghymru

Mae pecyn o fentrau i atal diabetes Math 2, lleihau marwolaethau ac anabledd y gellir eu hosgoi yn rhan o ddull newydd o fynd i’r afael â diabetes sy’n cael ei lywio gan GIG Cymru. Mae’r dull hwn yn ceisio uno arbenigwyr diabetes, clinigwyr, cymunedau a phobl sy’n byw gyda diabetes i fynd i’r afael ag un o broblemau iechyd mwyaf Cymru.

Archwilio effaith newid hinsawdd ar iechyd y cyhoedd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru, digwyddiad cenedlaethol sy’n dod â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a phobl o bob rhan o Gymru ynghyd i ddysgu ac archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.

Byddwch yn ymwybodol o symptomau canser y geg – gallai achub eich bywyd.

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu nad yw pobl sydd â symptomau canser y geg yn ceisio cyngor meddygol yn ddigon cynnar.