Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Dull Asesu'r Effaith ar Iechyd yn cynorthwyo cyrff sector cyhoeddus i ddatblygu addasiadau newid hinsawdd

Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â'r ymgynghoriaeth Urban Habitats, wedi dangos gwerth defnyddio Asesu'r Effaith ar Iechyd (HIA) wrth ddatblygu addasiadau i newid hinsawdd.

Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a phrofiadau gwledydd wedi canfod tystiolaeth y gallai polisïau amlsectoraidd leihau annhegwch iechyd

Gwnaeth yr Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol 46: Pum Amod Hanfodol ar gyfer Tegwch Iechyd archwilio penderfynyddion annhegwch iechyd ac amlygu pum maes polisi lle gellid cymryd camau gweithredu i leihau annhegwch. 

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn i brydau ysgol am ddim a gofal plant am ddim wella iechyd ein plant

Ni ddylai cyflwyno prydau ysgol a gofal plant am ddim gyfaddawdu ar ansawdd os ydym yn mynd i ddiogelu iechyd y rhai sydd fwyaf difreintiedig

Annog myfyrwyr prifysgol i roi brechu ar eu rhestr o bethau i'w gwneud er mwyn osgoi salwch difrifol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr newydd a phresennol sy'n cyrraedd yn y brifysgol yr hydref hwn i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau plentyndod, ac felly osgoi salwch difrifol fel llid yr ymennydd, y frech goch a septisemia. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer mynd i'r afael â fêpio ymhlith dysgwyr oedran ysgol uwchradd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adnodd gwybodaeth a chanllawiau ar fêpio i ddysgwyr oedran ysgol uwchradd yng Nghymru.

Mae Cymru wedi gweld tuedd ar i lawr mewn cyfraddau twbercwlosis (TB) dros y degawd diwethaf

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o 36 y cant o ran mynychder TB dros y degawd diwethaf, gan ostwng o uchafswm o 4.6 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 2013 i 2.8 achos fesul 100,000 o bobl yn 2021.

Dathlu manteision iechyd y terfyn cyflymder 20 mya newydd.

Wrth i wythnos newydd o ysgol a gwaith ddechrau gyda therfyn cyflymder 20 mya newydd yn ei le, mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn croesawu'r manteision iechyd a ddaw yn ei sgil.

Cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus.  

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2023
Rhybudd i frechu plant ifanc rhag ffliw, cyn y gaeaf

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog rhieni i frechu plant ifanc rhag y feirws ffliw yr hydref hwn, i'w hamddiffyn rhag cael heintiau eilaidd.