Mae'r tîm gwyddor data yng Nghanolfan Gwyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn cyllid i ddatblygu offer newydd a fydd yn helpu i amddiffyn preswylwyr cartrefi gofal yn erbyn clefydau heintus.
Gallai tua un o bob 11 o oedolion yng Nghymru fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035 os yw'r tueddiadau presennol yn parhau, yn ôl dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Ddiwrnod Diabetes y Byd.
Mae clinigydd sy'n gweithio gyda babanod a phlant sydd â dysplasia difrifol y glun wedi canmol prosiect CARIS Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n casglu data ar anomaleddau cynhenid yng Nghymru ac sy'n dathlu 25 mlynedd o weithredu.
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog y rhai sy'n gymwys i gael eu brechlyn ffliw cyn i'r gwaethaf o dymor ffliw'r gaeaf ddechrau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gyhoeddi ei rôl wrth sefydlu Ymchwil Ymddygiadol y DU (BR-UK), sef menter drawsnewidiol a fydd yn helpu i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd yn y DU.
Mae tîm o ymchwilwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu llawlyfr i arwain gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ar sut i weithredu gwaith i atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi cael y brechlyn MMR diweddaraf wrth iddo ymchwilio i achos o'r frech goch mewn plant ifanc yng Nghaerdydd.
Mae'r gyfradd achosion ar gyfer canser y geg yng Nghymru yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2002, yn ôl adroddiad newydd.
Mae pobl dros 18 oed ac sy'n byw yng Nghymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg sy'n archwilio arferion gweithgareddau hamdden.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru ei Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017 i adlewyrchu'r newidiadau sylweddol yn y dirwedd fyd-eang yn well a galluogi Strategaeth Hirdymor newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.