Bydd adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar draws y sefydliad i ddatblygu diwylliant o ymchwil.
Mae nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn meithrinfeydd ac ysgolion wedi adfer yn dilyn pandemig Covid-19.
Mae astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl ifanc, rhieni plant o dan 18 oed, y rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol a phobl sy'n nodi eu bod yn drawsryweddol yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â chamwybodaeth am frechlynnau ar-lein.
Mae bron i hanner (48%) o blant Cymru rhwng saith a 11 oed yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, yn ôl arolwg dan arweiniad academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl i lawer o bobl yng Nghymru ac mae llawer wedi gorfod torri i lawr ar hanfodion fel bwyd a gwres i gael deupen llinyn ynghyd.
Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol ar sut i leihau anghydraddoldebau mewn iechyd wedi canfod bod cynnydd treth ar dybaco a bwydydd egni uchel, gyda chymorthdaliadau ar ffrwythau a llysiau, yn gweithio'n dda i leihau bylchau mewn iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog i ganiatáu pleidlais rydd yn Senedd y DU ar godi oedran cyfreithiol smygu o un flwyddyn.
Mae'r canlyniadau diweddaraf arolwg panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos y byddai tua 8 o bob 10 o bobl yn gyfforddus yn siarad â ffrindiau a theulu, ac â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am sgrinio'r coluddyn.
Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â'r ymgynghoriaeth Urban Habitats, wedi dangos gwerth defnyddio Asesu'r Effaith ar Iechyd (HIA) wrth ddatblygu addasiadau i newid hinsawdd.