Neidio i'r prif gynnwy

Camau pwysig i ddiogelu iechyd a lleddfu pwysau ar wasanaethau'r gaeaf hwn

Cyhoeddwyd: 28 Hydref 2025

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf, mewnwelediadau ymddygiadol ac offer ymarferol i gefnogi cydweithwyr a gwasanaethau iechyd a gofal i baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf. 

Mae’r adroddiad sy’n dwyn y teitl, Llesiant yn ystod y Gaeaf: Camau Gweithredu ac Effaith a Rennir, wedi'i gynllunio i ategu fframweithiau cynllunio ar gyfer y gaeaf presennol y GIG a Llywodraeth Cymru.  Mae'n rhoi canllawiau ymarferol a rhestrau gwirio i helpu timau i gryfhau gwydnwch y system, cynnal iechyd y boblogaeth, a lleihau'r galw am wasanaethau. 

Mae'r adroddiad wedi'i ddiweddaru hwn yn adeiladu ar adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019, sef “Gwella iechyd a llesiant yn ystod y gaeaf a lleihau pwysau'r gaeaf yng Nghymru”, yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wyddor ymddygiad i gynllunio ar gyfer y gaeaf. 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at chwe maes blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu ar y cyd mewn perthynas ag unigolion, cymunedau a systemau: 

  1. Atal a rheoli clefydau heintus 
  2. Cadw'n gynnes ac yn iach 
  3. Cael mynediad at y gofal cywir ar yr amser iawn 
  4. Cefnogi iechyd a llesiant meddyliol 
  5. Cefnogi poblogaethau agored i niwed 
  6. Adeiladu gwydnwch y gweithlu gofal iechyd 

Mae pob adran yn darparu rhestrau gwirio ymarferol ac adnoddau parod i'w defnyddio sydd wedi'u cynllunio i gyd-fynd â phrosesau cynllunio ar gyfer y gaeaf presennol. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu timau gwasanaethau iechyd a gofal i ganolbwyntio eu hymdrechion, cynnal cysondeb, ac aros yn iach yn ystod cyfnodau o alw mawr. 

Dywedodd Ashley Gould, Cyfarwyddwr Rhaglen, Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r gaeaf yn gallu herio pob un ohonom – gan ddod â mwy o alw ar iechyd unigolion a heriau sylweddol i wasanaethau ar draws pob sector yng Nghymru.  

“Mae’r adroddiad yn cymhwyso egwyddorion gwyddor ymddygiad i rai o’r heriau mwyaf arwyddocaol o ran gwella a diogelu iechyd yn ystod y gaeaf. Mae'n cydnabod bod effaith barhaol yn dod o gamau gweithredu unigol a chefnogaeth ar draws y system.  

"Er bod cyfrifoldeb personol yn bwysig, mae’r fframwaith ffocws deuol hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i’r amgylchedd, y polisïau a’r gwasanaethau sydd o’n cwmpas wneud y dewisiadau hynny’n haws ac yn fwy cyraeddadwy i bawb.” 

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith atal, yn cynnwys diogelu rhag feirysau’r gaeaf trwy gael eich brechu yn erbyn y ffliw, RSV a COVID-19, aros yn egnïol, bwyta prydau cynnes, cadw golwg ar ein cymdogion, a chymryd fitamin D bob dydd i aros yn iach yn ystod y misoedd oerach. 

Mae'r adroddiad yn cefnogi gwaith paratoi cydlynol ar draws y system drwy gyd-fynd â mentrau ehangach Llywodraeth Cymru a'r GIG megis y fframwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf blynyddol. Fe'i cynlluniwyd fel offeryn ymarferol i staff, partneriaid a chynllunwyr, i’w helpu i fyfyrio, cynllunio a chyd-gynhyrchu datrysiadau sy'n sicrhau y gall pobl ledled Cymru aros yn iach, yn gynnes ac yn ddiogel y gaeaf hwn.