Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru, digwyddiad cenedlaethol sy’n dod â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a phobl o bob rhan o Gymru ynghyd i ddysgu ac archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu nad yw pobl sydd â symptomau canser y geg yn ceisio cyngor meddygol yn ddigon cynnar.
Gall tymheredd ein cartref effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor.
Mae’r ystadegau swyddogol blynyddol a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS) ar gyfer 2023 wedi dangos bod lefel yr anomaleddau cynhenid mewn babanod a anwyd yng Nghymru wedi aros yn sefydlog ar 4.8 y cant o’r holl enedigaethau, sef yr un lefel ag adroddiad y flwyddyn flaenorol. .
Mae bron un o bob chwech o fyfyrwyr blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9 y cant) yn defnyddio fêps yn rheolaidd, yn ôl data newydd. Mae dros 45 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêp.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o’r achos o Clade I Mpox a adroddwyd yn Lloegr. Gallwn gadarnhau nad oes unrhyw achosion Clade I Mpox wedi'u hadrodd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, yn amlygu sut mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) yn cael eu profi ar draws cenedlaethau. Roedd yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn Amddiffyn ac Ymarfer Plant yn dadansoddi data a gasglwyd oddi wrth 294 o dadau rhwng 18 a 69 oed mewn carchar yng Nghymru.
Mae'r adroddiadau blynyddol diweddaraf ar y rhaglenni iechyd deintyddol cyhoeddus a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yng Nghymru wedi dangos bod y rhaglenni wedi adfer yn dda o'r oedi yn ystod y pandemig.
Mae'r adroddiadau blynyddol diweddaraf ar y rhaglenni iechyd deintyddol cyhoeddus a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yng Nghymru wedi dangos bod y rhaglenni wedi adfer yn dda o'r oedi yn ystod y pandemig.
Mae mwy na 650,000 o fabanod wedi elwa o’r rhaglen sgrinio clyw babanod newydd-anedig yng Nghymru, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 y mis hwn.