Mae'r canlyniadau diweddaraf arolwg panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos y byddai tua 8 o bob 10 o bobl yn gyfforddus yn siarad â ffrindiau a theulu, ac â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am sgrinio'r coluddyn.
Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â'r ymgynghoriaeth Urban Habitats, wedi dangos gwerth defnyddio Asesu'r Effaith ar Iechyd (HIA) wrth ddatblygu addasiadau i newid hinsawdd.
Gwnaeth yr Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol 46: Pum Amod Hanfodol ar gyfer Tegwch Iechyd archwilio penderfynyddion annhegwch iechyd ac amlygu pum maes polisi lle gellid cymryd camau gweithredu i leihau annhegwch.
Ni ddylai cyflwyno prydau ysgol a gofal plant am ddim gyfaddawdu ar ansawdd os ydym yn mynd i ddiogelu iechyd y rhai sydd fwyaf difreintiedig
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr newydd a phresennol sy'n cyrraedd yn y brifysgol yr hydref hwn i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau plentyndod, ac felly osgoi salwch difrifol fel llid yr ymennydd, y frech goch a septisemia.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adnodd gwybodaeth a chanllawiau ar fêpio i ddysgwyr oedran ysgol uwchradd yng Nghymru.
Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o 36 y cant o ran mynychder TB dros y degawd diwethaf, gan ostwng o uchafswm o 4.6 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 2013 i 2.8 achos fesul 100,000 o bobl yn 2021.
Wrth i wythnos newydd o ysgol a gwaith ddechrau gyda therfyn cyflymder 20 mya newydd yn ei le, mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn croesawu'r manteision iechyd a ddaw yn ei sgil.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus.