Mae astudiaeth arloesol gan ymchwilwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi casglu dealltwriaeth werthfawr o wasanaethau cyfieithu ar y pryd y GIG sydd ar gael i geiswyr noddfa yng Nghymru.
Mae arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cefnogaeth gref gan y cyhoedd yng Nghymru ar gyfer camau gweithredu gan y llywodraeth i wneud y bwyd rydym yn ei brynu yn iachach.
Er bod yr haf yn amser gwych i ymlacio a mwynhau treulio mwy o amser yn yr awyr agored, mae'n bwysig cofio rhai pethau syml y gallwn eu gwneud i gadw'n iach ac amddiffyn y rhai o'n cwmpas.
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi manylion am sut y mae angen rhoi sylw brys i ddeall effeithiau Brexit ar fasnach anghyfreithlon yng Nghymru i liniaru niwed iechyd posibl a marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, alcohol, a thybaco anghyfreithlon.
Mae adolygiad o dystiolaeth ac ymarfer rhyngwladol effaith Prydau Ysgol Gynradd am Ddim i Bawb (UPFSM) wedi dangos amrywiaeth eang o fanteision economaidd-gymdeithasol i unigolion, cymunedau, a datblygu lleol a chenedlaethol.
Mae Wythnos Diabetes yn nodi pen-blwydd cyntaf Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP).
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru am dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyfleoedd i bobl hŷn fod yn fwy gweithredol yn gymdeithasol i ddiogelu eu hiechyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog dynion 65 oed i ystyried manteisio ar gynnig sgrinio ymlediadau aortig abdomenol, wrth iddo nodi dengmlwyddiant ei raglen sgrinio ymlediadau. Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod ymwybyddiaeth isel o'r rhaglen, ac nid oedd 77 y cant o'r dynion a ymatebodd yn ymwybodol o'r rhaglen hon a allai achub bywydau.
Mae arolwg diweddaraf panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi ailddyrannu ffyrdd yn eu hardal leol ar gyfer cerdded (75 y cant) a beicio (68 y cant). Mae creu amgylchedd egnïol yn hanfodol i gynorthwyo pobl i fod yn gorfforol egnïol.