Cynhaliwyd ail gyfarfod o'r Tîm Rheoli Achosion aml-asiantaeth heddiw (2 Mai) i asesu'r brigiad sy’n parhau o achosion o Gryptosporidiwm sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â Siop Fferm y Bont-faen, Fferm Marlborough Grange, Cross Ways, y Bont-faen CF71 7LJ.
Mae chwe cham polisi allweddol, a allai helpu i wella iechyd a lles a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru, wedi'u hamlygu mewn adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yng Nghymru yn cael eu hannog i amddiffyn pobl ifanc rhag canserau sy’n gysylltiedig â HPV drwy sicrhau eu bod yn manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn HPV yn yr ysgol.
Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu cyfres newydd o adnoddau sydd wedi’u cynllunio i helpu cyfathrebwyr iechyd y cyhoedd i wneud y gorau o effaith eu gwaith gan ddefnyddio gwyddor ymddygiad.
Gyda’r Pasg yn prysur agosáu a llawer o deuluoedd yn cynllunio ymweliadau â ffermydd a sŵau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa ymwelwyr o’r peryglon iechyd posibl sy’n gysylltiedig â chyswllt ag anifeiliaid a sut i gadw’n ddiogel.
Nod dadansoddiad newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw helpu gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi i ganolbwyntio eu hymdrechion ar leihau ysmygu.
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus deintyddol yn tynnu sylw at gynnydd bach mewn tynnu dannedd o dan anesthesia cyffredinol mewn plentyndod rhwng 2022/23 a 2023/24. 2022/23 i 2023/24
Mae’r offeryn yn darparu proffil cryno, sy’n galluogi defnyddwyr i ddelweddu dangosyddion allweddol ar gyfer pob clwstwr o fewn bwrdd iechyd ar yr un pryd. Gall defnyddwyr hefyd gymharu data dangosyddion â chyfartaleddau byrddau iechyd a Chymru gyfan. Yn ogystal, cynhwysir naratif byr sy'n amlygu canfyddiadau allweddol o'r data.
Mae cyfres o adroddiadau Mewnwelediadau Data wedi'u cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o raglen Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD).
Mae'r ystadegau swyddogol diweddaraf gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datgelu bod y gwelliant hanesyddol yn y cyfraddau goroesi canser un flwyddyn ar draws poblogaeth gyfan Cymru wedi stopio ymhell cyn y pandemig.