Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Wedi lapio'n gynnes, ond dal yn oer gartref: Astudiaeth yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae aelwydydd incwm isel yn eu hwynebu wrth geisio cadw'n gynnes a'r effeithiau eang ar iechyd a bywyd bob dydd
Lleisiau plant a theuluoedd mewn tlodi yn dangos pwysigrwydd creu dyfodol iachach ar gyfer tai yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at risgiau iechyd brys o gam-drin, unigrwydd a thrafferthion ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol John Moores Lerpwl wedi dangos sut mae cam-drin, trafferthion ariannol ac unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn ddiweddarach mewn bywyd yn cynyddu risgiau pobl o iechyd gwael. 

Lansio ap dwyieithog i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yng Nghymru

Bydd ap newydd yn cynnig cymorth personol, dwyieithog a rhad ac am ddim i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu am byth ledled Cymru. 

Mae ap ffôn symudol newydd Helpa Fi i Stopio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu llwybr ychwanegol i bobl sydd eisiau rhoi'r gorau iddi gyda chymorth digidol hyblyg, gan gynnwys y rhai nad ydynt o bosibl eisiau defnyddio gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu traddodiadol. 

Sefydliad Iechyd y Byd yn ail-ddynodi Canolfan Gydweithredol ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dathlu ail-ddynodi ei Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant.

Gellid Atal Bron i Hanner yr Achosion o Ddementia Drwy Newidiadau i Ffordd o Fyw

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd yr ymennydd yn dilyn adolygiad o dystiolaeth ryngwladol sy'n dangos y gellid atal hyd at 45 y cant o achosion o ddementia.

Llesiant meddyliol gwell yn gysylltiedig ag iechyd y galon gwell

Mae llesiant meddyliol gwell yn gysylltiedig ag iechyd y galon gwell. Mae tystiolaeth newydd yn dangos ei fod yn gysylltiedig â marwolaethau cardiofasgwlaidd is a ffactorau risg is fel pwysedd gwaed uchel a lefelau colesterol afiach.

Y geiriau
DATGANIAD: Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol

Yn dilyn adolygiad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi rhai problemau gweithredol yn ein Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol.

Pydredd dannedd mewn plant ifanc yng Nghymru yn parhau i ostwng, ond anghydraddoldebau'n parhau

Mae canfyddiadau newydd gan Raglen Epidemioleg Deintyddol GIG Cymru yn dangos bod iechyd y geg mewn plant Blwyddyn Ysgol Un yng Nghymru yn parhau i wella, gyda llai yn profi pydredd dannedd nag yn y blynyddoedd blaenorol. 

Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang o ran cydnabod cysylltiadau cymdeithasol fel blaenoriaeth iechyd y cyhoedd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n archwilio unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol ledled y genedl. Mae’n tynnu ar ganfyddiadau o adroddiad blaenllaw 2025 gan Gomisiwn ar Gysylltiad Cymdeithasol Sefydliad Iechyd y Byd.