Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol I Gymru

Mae’r Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol i Gymru yn mesur graddau, difrifoldeb ac effaith clefydau deintyddol ymysg plant Blwyddyn 1 (5 oed), plant Blwyddyn 7 (12 oed) a grwpiau o oedolion sy’n byw ledled Cymru. 

Mae hyn yn ein helpu i benderfynu ar statws iechyd a llesiant y geg y boblogaeth ar hyn o bryd ac yn disgrifio’r anghydraddoldebau ar draws cwrs bywyd. Mae hefyd yn ein helpu i ddeall effaith iechyd y geg gwael ar iechyd a llesiant cyffredinol, gan ein galluogi i ddeall sut y gall GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau deintyddol yn well yn y dyfodol er mwyn gallu diwallu’r anghenion hynny.

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu’r Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol i Gymru. Rydym yn gyfrifol am gynllunio, cynnal a chyflawni’r rhaglen, gan weithio ochr yn ochr ag Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru. Mae Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cymryd rhan yn y rhaglen.
 

Canlyniadau diweddaraf

 

Cysylltu â ni:

ebost dentalpublichealth@wales.nhs.uk 

I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddogaethau gwybodaeth ym maes iechyd y geg, ewch i: Gwybodaeth Iechyd y Geg - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Am adroddiadau a gwybodaeth cyn 2022, ewch i Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru