Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Iechyd y Geg

Mae’r tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn darparu arweinyddiaeth wrth ddatblygu a gwella gwybodaeth am iechyd y geg, ac mae'n darparu cyngor a chymorth arbenigol i randdeiliaid.  Mae’r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, swyddogaethau nad ydynt yn rhai deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff statudol eraill.

Disgrifir ein swyddogaeth o ran gwybodaeth am iechyd y geg yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar gyfer Iechyd Deintyddol y Cyhoedd [WHC (2021) 032]. Rydym yn gyfrifol am gynllunio, cynnal a chyflwyno Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol Cymru, gan weithio ochr yn ochr ag Uned Gwybodaeth Iechyd  Geneuol Cymru. Mae hyn yn pennu lefel  clefyd deintyddol ymysg carfannau o blant 5 oed, plant 12 oed ac oedolion ac effaith hynny. Mae'r wybodaeth a gynhyrchir yn hanfodol i lywio polisi deintyddol Llywodraeth Cymru ar wasanaethau deintyddol ac iechyd y geg, y rhaglen barhaus i ddiwygio'r contract deintyddol ac mae'n helpu i lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau deintyddol lleol.

Uned Gwybodaeth IEchyd Geneuol Cymru Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

Mae'r swyddogaeth gwybodaeth am iechyd y geg hefyd yn canfod annhegwch yn y ddarpariaeth a'r defnydd o gwasanaethau deintyddol y GIG ac effaith iechyd y geg gwael ar iechyd a llesiant cyffredinol ar draws y cwrs bywyd.  Dylai'r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i fyrddau iechyd o ran eu gwaith cynllunio gwasanaethau deintyddol ac i lywio polisi deintyddol Llywodraeth Cymru ar wasanethau deintyddol ac iechyd y geg.       

Ystadegau Llywodraeth Cymru Gwasanaethau deintyddol GIG:  https://llyw.cymru/gwasanaethau-deintyddol-gig

StatsCymru Gwasanaethau deintyddol cyffredinol: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/General-Dental-Services

Rydym yn adrodd yn flynyddol ar nifer y triniaethau deintyddol o dan anesthetig cyffredinol a ddarperir i blant 0-17 oed yng Nghymru.  Y Defnydd O Anaestheteg Cyffredinol Wrth Roi Triniaeth Ddeintyddol I Blant Yng Nghymru 2019-2020

Adroddiadau blynyddol ar anesthetig mewn triniaethau deintyddol plant | LLYW.CYMRU

Dadansoddiad o gyfraddau canser y geg a'r ffaryncs yng Nghymru Awst 2023

Atgyfeiriadau o ofal sylfaenol ar gyfer rheoli pydredd dannedd pediatrig

Iechyd y geg ymhlith plant 5 oed yng Nghymru 2022-2023:  Crynodeb.   Adroddiad technegol  Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)Infograffeg genedlaethol

Darlun o Iechyd y Geg 2023 - Canran y plant 5 oed sydd wedi profi pydredd dannedd 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Diweddarwyd ddiwethaf:  29/01/2024