Neidio i'r prif gynnwy

Mynychder Canser y Croen nad yw'n Felanoma yng Nghymru

Cyhoeddwyd 30eg Mai 2024

 

Cliciwch yma i weld cyhoeddiad Mynychder Canser y Croen nad yw'n Felanoma yng Nghymru

 

Y cyhoeddiad yma yw'r Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar gyfer mynychder canser y croen nad yw'n felanoma (NMSC) yng Nghymru. Mae ystadegau ar gael yn ôl math o ganser, daearyddiaeth, statws amddifadedd ardal, rhywedd, band oed pum mlynedd a lleoliad canser ar y corff. Mae'r mesurau yn cynnwys cyfrifon, cyfraddau crai, cyfraddau sy'n benodol i oed a chyfraddau wedi'u safoni yn ôl oed. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y blynyddoedd cofrestru 2016 i 2020. 

 

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r adroddiad HTML ar ddigwyddedd canser y croen nad yw'n felanoma.

 

Mae hwn yn cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • chwyddo’r cynnwys hyd at 200% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.  Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich teclyn yn haws ei ddefnyddio.
Caiff hygyrchedd ar y wefan hon ei harwain gan safonau’r llywodraeth a 
Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Caiff WCAG eu derbyn yn eang fel y safon genedlaethol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn anelu at sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bob defnyddiwr ac at gyflawni lefel gydymffurfio WCAG ‘AA’, rydym yn gweithio’n barhaus â rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â lefel gydymffurfio ‘A’ fel isafswm.

Mae'r nodweddion cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Efallai y bydd gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Saesneg/Cymraeg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau hygyrchedd ar y safle hwn, neu os bydd gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni.

  

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Fersiwn 2, cyhoeddwyd 30/05/2024

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Efallai na fydd rhannau o’r tudalennau yn gweithio’n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel rhaglenni darllen sgrin
  • Nid oes gan rai botymau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
  • Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni yn gyntaf a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol.  Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

 

Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

 

Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

 

Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Fersiwn 2, cyhoeddwyd 30/05/2024
Er ein bod yn ymdrechu i gwrdd â 'WCAG 2.1 AA' mae gennym y materion canlynol nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd:

1.3.1 Gwybodaeth a pherthnasoedd: Gall gwybodaeth, strwythur a pherthnasoedd a gyfleir trwy gyflwyniad gael eu pennu'n rhaglennol neu maent ar gael ar ffurf testun.

1.4.5 Delweddau o destun: Os gall y technolegau a ddefnyddir gyflawni'r cyflwyniad gweledol, defnyddir testun i gyfleu gwybodaeth yn hytrach na delweddau o destun.

1.4.10 Ail-lenwi: Gellir cyflwyno cynnwys heb golli gwybodaeth neu ymarferoldeb, a heb fod angen sgrolio mewn dau ddimensiwn.

2.4.1 Blociau osgoi: Mae mecanwaith ar gael i osgoi blociau o gynnwys sy'n cael eu hailadrodd ar nifer o dudalennau gwe.

2.4.8 Lleoliad: Mae gwybodaeth am leoliad y defnyddiwr o fewn set o dudalennau gwe ar gael.

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Mai 2024. Caiff ei adolygu ym mis Mai 2025. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mai 2024. Cynhaliwyd y prawf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein cynhyrchion i sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio wcu.stats@wales.nhs.uk

 

Ystadegydd cyfrifol: Leon May

E-bost: wcu.stats@wales.nhs.uk

Ffôn: +44 (0)29 2037 3500