Neidio i'r prif gynnwy

Gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod effeithio ar allu pobl i ymdopi â heriau argyfwng costau byw

Cyhoeddwyd: 2 Mai 2024

Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, a gyhoeddwyd heddiw yn BMJ Open (Saesneg yn unig) , yn dangos y gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) effeithio ar ganfyddiadau pobl o’u gallu i ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae ACEs yn ystod Plentyndod yn brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel cam-drin plant a dod i gysylltiad ag anawsterau yn y cartref a thrais domestig, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl ac aelodau o’r teulu yn y carchar, ymhlith eraill.

Gall y profiadau hyn, yn enwedig pan fyddant yn digwydd gyda’i gilydd, gael effeithiau andwyol ar iechyd a llesiant unigolion drwy gydol eu hoes. Mae hyn yn cynyddu’r risg o ymddygiadau sy’n niweidio iechyd megis ysmygu neu ddefnyddio cyffuriau, iechyd meddwl gwael, a salwch corfforol fel canser a chlefyd cardiofasgwlaidd. 

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod hefyd wedi bod yn gysylltiedig â chyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau cyflogaeth gwaeth, a all effeithio ar gyfleoedd bywyd unigolion a chyfrannu at amddifadedd cymdeithasol ac economaidd. Gall Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod hefyd effeithio ar gadernid personol unigolion a’u gallu i ddelio â sefyllfaoedd sy’n achosi straen. Gall yr holl ffactorau hyn olygu bod pobl sydd wedi dioddef Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod yn fwy agored i effaith argyfyngau economaidd.  

Dadansoddodd yr astudiaeth ddata a gasglwyd gan 1,880 o oedolion sy'n byw ledled Cymru. Canfu fod y rhai a adroddodd am fwy nag un Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod niferus yn llawer mwy tebygol o ganfod na fyddent yn gallu ymdopi’n ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw, yn annibynnol ar ffactorau gan gynnwys lefel incwm y cartref, statws cyflogaeth ac amddifadedd preswyl.

Roedd y rhai â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod niferus hefyd yn fwy tebygol o adrodd bod costau byw cynyddol yn achosi trallod a phryder sylweddol iddynt, a bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol, perthnasoedd teuluol, lefelau lleol o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais, a chefnogaeth gymunedol.

Dywedodd yr Athro Karen Hughes, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Rydym yn gwybod bod pobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan y cynnydd mewn costau byw gan fod pris hanfodion sylfaenol yn cymryd cyfran uwch o’u hincwm cyffredinol.

Fodd bynnag, awgryma’r astudiaeth hon bod pobl sydd wedi dioddef o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn grŵp bregus ychwanegol, waeth beth yw eu sefyllfa economaidd-gymdeithasol. Fe wnaethom ganfod fod pobl â phedwar Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod neu fwy tua thair gwaith yn fwy tebygol na’r rhai heb brofiadau niweidiol o ganfod na fyddent yn gallu ymdopi’n ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw. Maent yn adrodd am drallod a phryder sylweddol oherwydd costau byw cynyddol.”

Dywedodd Dr Kat Ford, Prifysgol Bangor:

“Mae’r astudiaeth yn dangos pwysigrwydd cael ymagwedd sy'n ystyriol o drawma at wasanaethau cyhoeddus i allu cefnogi pobl â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a darparu llwyfan teg i bawb. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a chefnogi teuluoedd sydd mewn perygl i feithrin cadernid yn erbyn argyfyngau yn y dyfodol.”