Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth yn datgelu tystiolaeth gymysg ar ymyriadau rhagsefydlu ar gyfer rhestrau aros llawfeddygol

9 Mai 2024

Mae un o astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru a fu'n archwilio ymyriadau rhagsefydlu wedi nodi bod angen rhagor o ymchwil i ddeall eu heffeithiolrwydd yn llawn ar gyfer gwella iechyd cleifion wrth aros am lawdriniaeth.  

Mewn ymateb i bryderon ynghylch amseroedd aros hir ar ôl pandemig covid, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiad o'r ymchwil bresennol sy'n archwilio'r camau y gall cleifion sy'n aros am lawdriniaeth eu cymryd er mwyn cynnal a gwella eu hiechyd wrth iddynt aros. Gall hyn yn ei dros helpu i gyflymu'r broses o wella ac effeithiolrwydd cyffredinol y llawdriniaeth.  

Mae rhagsefydlu yn ddull sydd â'r nod o wella iechyd cleifion cyn iddynt gael triniaethau llawfeddygol. Yn wahanol i adsefydlu, sy'n canolbwyntio ar wella ar ôl llawdriniaeth, mae rhagsefydlu yn canolbwyntio ar baratoi cleifion yn gorfforol, yn feddyliol, ac yn emosiynol cyn eu llawdriniaeth. 

Gall ymyriadau rhagsefydlu gynnwys pethau fel;  

  • Ymarfer corff  

  • Cwnsela maeth  

  • Cymorth i roi'r gorau i smygu 

  • Technegau rheoli straen 

  • Addysg am y llawdriniaeth sydd i ddod a disgwyliadau ôl-driniaethol y cleifion 

Mae'r ymyriadau hyn wedi'u cynllunio i wella iechyd a ffitrwydd cyffredinol y cleifion, gan leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â llawdriniaeth, a hwyluso gwellhad cyflymach ar ôl llawdriniaeth. 

Edrychodd yr adolygiad ar 57 o astudiaethau o oedolion sy'n aros am lawdriniaeth a fesurodd effeithiolrwydd rhaglenni rhagsefydlu penodol ar gyfer gwella canlyniadau corfforol, cymdeithasol, ac iechyd meddwl amrywiol ymhlith cleifion cyn llawdriniaeth.  

Roedd y rhan fwyaf o'r rhaglenni a astudiwyd wedi'u cynllunio ar gyfer rhai mathau o gleifion a oedd yn cael llawdriniaethau wedi'u cynllunio, fel llawdriniaethau orthopedig neu ar y galon. Yn nodedig, cafwyd bod llawer o'r dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn ar gyfer cynnal neu wella mesurau iechyd amrywiol cyn llawdriniaeth yn anghyson neu o ansawdd gwael, gan nodi'r angen am ragor o ymchwil yn y maes hwn. 

Er gwaethaf yr angen cyffredinol am ragor o ymchwil, daeth rhai canfyddiadau addawol i'r amlwg o'r adolygiad yn dangos manteision posibl technegau rhagsefydlu amrywiol ar gyfer gwella iechyd cleifion wrth iddynt aros am lawdriniaeth: 

  • Dangosodd ymyriadau rhagsefydlu i helpu pobl i roi'r gorau i smygu rywfaint o effeithiolrwydd o ran helpu cleifion i roi'r gorau i smygu yn y 24 awr cyn llawdriniaeth a lleihau'r defnydd cyffredinol o sigaréts dyddiol mewn cleifion ar restrau aros llawfeddygol. 

  • Dangosodd ymarferion sy'n seiliedig ar gryfder dan oruchwyliaeth fanteision o ran lleihau poen a gwella cydbwysedd mewn cleifion sy'n aros am lawdriniaeth orthopedig. 

  • 'Dangoswyd bod defnyddio dulliau gwahanol i helpu cleifion i newid eu hymddygiad, fel cwnsela ffordd o fyw, yn helpu i wella iechyd meddwl cleifion sy'n aros am lawdriniaeth ddargyfeiriol goronaidd' 

Meddai Amy Hookway, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod yr adolygiad hwn yn amlygu amrywiaeth eang o ymyriadau sydd ar gael i gleifion sy'n aros am lawdriniaeth, mae hefyd yn dangos bod rhywfaint o'r dystiolaeth am eu heffeithiolrwydd yn parhau i fod yn anghyson. Er mwyn helpu i wella canlyniadau cleifion, mae'n hanfodol bod astudiaethau pellach yn cael eu cynnal er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn.” 

Disgwylir i ganfyddiadau'r adolygiad helpu gyda datblygu polisi a dyrannu adnoddau yng Nghymru, gyda'r nod o gyfyngu ar effeithiau andwyol amseroedd aros llawfeddygol hir ar iechyd a llesiant cleifion. 

Wrth i restrau aros ar gyfer llawdriniaethau wedi'u cynllunio barhau i fynd yn hirach mewn systemau gofal iechyd ledled y byd, mae astudiaethau fel hyn yn darparu canfyddiadau gwerthfawr o ran ffyrdd posibl o wella canlyniadau cleifion yn ystod y cyfnod aros.  

Gyda rhagor o ymchwil a gwerthuso, gallai rhagsefydlu chwarae rhan sylweddol wrth wella iechyd cleifion a lleihau'r baich ar systemau gofal iechyd.