Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i eirioli dros gamau gweithredu brys ar fonitro aer

21 Mai 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod pobl leol yn bryderus iawn am arogleuon o amgylch y safle tirlenwi yn Withyhedge. Rydym yn parhau i alw am ddarparu gwell data ansawdd aer, i'n galluogi i wneud asesiad risg iechyd o'r safle. Mae hyn yn ychwanegol at ein hargymhelliad gwreiddiol i gymryd camau gweithredu brys er mwyn mynd i'r afael â ffynhonnell yr arogleuon.

Yr wythnos hon, cyfarfu Iechyd Cyhoeddus Cymru â chynrychiolwyr etholedig cymunedau cyfagos ger Safle Tirlenwi Withyhedge, ynghylch y mater o arogleuon sylweddol sy'n deillio o'r safle.

Ers dechrau eleni, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, sef yr asiantaeth arweiniol sy'n rheoli'r digwyddiad hwn. Mae'n bosibl y gall arogleuon ac allyriadau o'r safle fod yn niweidiol i iechyd, ond heb ddata mae'n anodd gwybod yn sicr. Rydym wedi cyflwyno cyngor yn gyson bod angen monitro ansawdd aer er mwyn cael dealltwriaeth gywir o effeithiau posibl allyriadau ar iechyd y gymuned leol.

Rydym bellach wedi derbyn rhywfaint o ddata ansawdd aer hirdymor sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn dal i aros am ddata monitro tymor byr ychwanegol gan y bydd hyn yn galluogi darlun mwy cyflawn ac asesiad llawnach o unrhyw effeithiau iechyd posibl ar gymunedau cyfagos.

Ein cyngor i bobl o hyd yw cadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd yr arogleuon yn bresennol a gofyn am gyngor meddygol os bydd angen. Rydym yn parhau i eirioli dros gamau gweithredu brys i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Am sawl mis, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn eirioli dros fynd i'r afael â'r arogleuon ar frys, yn ogystal â gwneud gwaith monitro ansawdd aer annibynnol manwl. Dyma'r unig ffordd y gallwn gael darlun cywir o'r niwed corfforol posibl i iechyd.

“Mae trigolion wedi bod yn profi trallod o ganlyniad i'r arogleuon drwg ac mae eu hangen am ateb cyflym yn ddealladwy. Ni ddylid tanamcangyfrif yr effaith ar iechyd meddwl ychwaith. Rydym yn parhau i eirioli dros gamau gweithredu brys er mwyn dod o hyd i ateb i'r mater hwn cyn gynted â phosibl.”