Dogfennau yn Gymraeg:
Yn 2019, penderfynodd Tîm Gweithredol Busnes ICC weithredu cyhoeddi Polisïau a Gweithdrefnau yn Gymraeg wrth iddynt gael eu hadolygu a'u diweddaru nesaf. (Mae hyn y tu hwnt i’r gofynion a osodir arnom gan Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018.)
Mae'r cylch o adolygiadau'n parhau ac os nad oes dogfen ar gael yn Gymraeg, bydd yr hyperddolen yn agor fersiwn Saesneg o’r ddogfen rydych chi wedi gofyn amdani.
Ar ddiwedd y broses adolygu, bydd yr holl ddogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os nad yw dogfen yr ydych chi ei hangen ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd, anfonwch e-bost atom a byddwn yn darparu fersiwn Gymraeg.