Diweddariad i ysgolion a meithrinfeydd- Mehefin 2020
Diweddariad i ysgolion a meithrinfeydd- Ionawr 2019
Mae’n hanfodol cefnogi ysgolion a meithrinfeydd er mwyn i’r Cynllun Gwên lwyddo a gwella iechyd y geg i blant yng Nghymru. Gall lleoliadau gyfranogi mewn nifer o ffyrdd:
1) Cymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth
Dylai lleoliadau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru gymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd gyda chymorth llawn y tîm Cynllun Gwên hyd at flwyddyn 2 yn yr ysgol. Er mwyn darganfod a all eich ysgol neu’ch meithrinfa gymryd rhan, cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol.
Brwsio Dannedd yn y Feithrinfa a'r Ysgol
2) Cefnogi’r rhaglen Farnais Fflworid
Bydd timau’r Cynllun Gwên yn ymweld ag ysgolion a meithrinfeydd a dargedir ddwywaith y flwyddyn i gyflwyno’r rhaglen Farnais Fflworid.
3) Darparu gwersi addysg iechyd y geg i blant
Gall dysgu am iechyd y geg da o oedran cynnar fod yn fanteisiol i blant drwy gydol eu bywydau, oherwydd gellir atal afiechyd deintyddol a gall dannedd iach barhau am oes. Mae llawer o ffyrdd o ddarparu profiadau dysgu ystyrlon am iechyd y geg i annog plant i ddatblygu agweddau ac arferion da. Dylai cynnwys a chyflwyniad y wers ystyried oedran y plant, gwybodaeth ac agweddau blaenorol, adnoddau a’r amser sydd ar gael. Negeseuon allweddol i hybu iechyd y geg da yw:
Mae’r adnodd Cyfnod Sylfaen hwn yn cyflwyno’r pwnc iechyd y geg a bwyta’n iach. Mae’n cynnwys taflenni gweithgaredd y gellir eu defnyddio mewn gwersi i gefnogi addysgu am ddannedd, sgiliau creadigol, ffurfio geiriau, a datblygu deheurwydd.
Mae’r adnodd Cyfnod Allweddol 2 hwn yn cyflwyno’r pwnc iechyd y geg a bwyta’n iach. Mae’n cynnwys cynlluniau gwersi a chyflwyniadau i athrawon, a thaflenni gweithgaredd atodol. Mae’r rhain yn cefnogi’r broses o ddysgu am iechyd a bioleg, bwyd ac ymddygiad, cynnal arbrofion gwyddonol, sgiliau creadigol a chyfleu gwybodaeth.
I gydnabod ymrwymiad a chefnogaeth barhaus i’r rhaglen Cynllun Gwên, efallai y bydd eich meithrinfa neu’ch ysgol yn gymwys i gael y wobr Cynllun Gwên. Mae plac wedi cael ei ddatblygu i ddangos eich ymdrechion o ran ceisio gwella iechyd y geg pobl ifanc yng Nghymru.
Meini prawf y wobr:
*Mae pob lefel yn tybio bod brwsio dannedd rheolaidd yn digwydd
Wrth i chi gyflawni’r cam nesaf byddwn yn rhoi’r bathodyn cyfatebol i chi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol.