Caiff allbynnau’r rhaglen Cynllun Gwên eu disgrifio mewn adroddiadau monitro blynyddol a ddarperir i Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o brosiectau gwerthuso, a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd:
2009 – Evaluation of a national child oral health improvement programme Stage I Part I
2010 – Evaluation of a national child oral health improvement programme Stage I Part II
2011 – Evaluation of a national child oral health improvement programme Stage I Part III
2012 – Evaluation of a national child oral health improvement programme Stage II Part I
2013 – Evaluation of a national child oral health improvement programme Stage II Part II
2015 – Evaluation of a national child oral health improvement programme Stage II Part III
Mae arolygon epidemioleg deintyddol a gynhelir yn gywir yn ffordd allweddol o asesu iechyd y geg i blant, a helpu i werthuso effaith y Cynllun Gwên.
Cynhelir yr arolygon gan glinigwyr Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol sydd wedi’u hyfforddi a’u graddnodi’n briodol, a’u cefnogi gan nyrsys deintyddol.
Cynhyrchir adroddiadau arolygon epidemioleg deintyddol gan Uned Gwybodaeth Iechyd y Geg Cymru.
Caiff iechyd y geg i blant yng Nghymru ei fonitro hefyd drwy adroddiadau blynyddol ar lawdriniaethau deintyddol pediatrig sy’n defnyddio anesthetig cyffredinol.