Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau iechyd y blynyddoedd cynnar

Gwasanaethau Iechyd y Blynyddoedd Cynnar

Cyn tair blwydd oed, mae llawer o blant yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser gartref gyda’u teulu. Gall staff rheng flaen, fel ymwelwyr iechyd a bydwragedd, helpu rhieni, gofalwyr ac aelodau eraill o’r teulu i ddeall pwysigrwydd iechyd y geg da a sut mae’n effeithio ar iechyd, lles a datblygiad cyffredinol, drwy:

  • hybu bwydo ar y fron a diddyfnu iach, a sut i symud o fwydo ar y fron neu botel i ddefnyddio cwpan agored erbyn i’r plentyn gyrraedd 12 mis oed.
  • hybu bwyd, byrbrydau (er enghraifft, ffrwythau ffres) a diodydd (dŵr a llaeth) sy’n rhan o ddeiet iachach
  • hybu’r defnydd o bast dannedd fflworid cyn gynted ag y bydd dannedd yn ymddangos, yn enwedig cyn mynd i’r gwely gyda’r nos
  • dangos sut i ofalu am ddannedd plentyn ifanc ac annog brwsio dannedd o oedran cynnar
  • cynghori ar ddewisiadau eraill yn lle bwydydd, diodydd a byrbrydau llawn siwgr fel ffordd o dawelu plant neu fel gwobr
  • defnyddio meddyginiaeth heb siwgr
  • annog teuluoedd i fynd â’u plant i bractis deintyddol ar ôl iddynt gael eu dant cyntaf ac yn sicr erbyn eu pen-blwydd cyntaf
  • rhoi manylion am sut i gael mynediad i wasanaethau deintyddol arferol a brys
     

Beth gall y Cynllun Gwên ei wneud i chi?

Gall staff y Cynllun Gwên ddarparu sesiynau hyfforddi ar Addysg Iechyd y Geg i weithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant. Gellir darparu sesiynau ar gyfer cyrsiau myfyrwyr sy’n astudio i fod yn weithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â staff ar ôl iddynt gymhwyso, fel ffurf ar ddatblygiad proffesiynol. Cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol  i drefnu sesiwn.

Gall y Cynllun Gwên helpu ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddod o hyd i wasanaethau deintyddol ar gyfer y teuluoedd maent yn eu cefnogi. Cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol  i gael mwy o wybodaeth.

Gall y Cynllun Gwên ddarparu adnoddau i’w defnyddio ar gyfer hybu iechyd y geg, fel taflenni a phosteri. Gallant hefyd ddarparu pecynnau brwsio dannedd a chwpanau hyfforddi i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. Cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol i gael mwy o wybodaeth.

Am wybodaeth am fwyta'n iach, hyfforddiant ac addysg maeth i weithwyr iechyd proffesiynol, ewch i Sgiliau Maeth am Oes

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Codi'r Wefus yn rhan o sesiynau hyfforddi Cynllun Gwên a ddarperir i dimau ymwelwyr iechyd. Offeryn asesu iechyd y geg yw Codi’r Wefus sy’n ei gwneud yn ofynnol i rieni/gwarcheidwaid archwilio dannedd blaen uchaf eu plant cyn-ysgol ym mhresenoldeb gweithwyr iechyd proffesiynol, er mwyn adnabod arwyddion o bydredd dannedd mewn plentyndod cynnar. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio wrth ddarparu cyngor ataliol, ac annog a hwyluso'r defnydd o wasanaethau deintyddol clinigol. Nod Codi'r Wefus yng Nghymru yw cryfhau rôl hybu iechyd y geg ymwelwyr iechyd.

Pwyntiau allweddol:

•            Mae dannedd babi yn bwysig
•            Mae atal pydredd dannedd yn haws na'i drin
•            Mae pydredd yn digwydd yn gyflym iawn i ddannedd babanod
•            Y cynharaf y caiff pydredd ei ganfod, y gorau fydd y canlyniad
•            Gwiriwch ddannedd eich plentyn gartref yn aml
•            Ewch â'ch plentyn at ddeintydd yn rheolaidd, yn ddelfrydol cyn gynted ag y bydd ei ddannedd cyntaf yn ymddangos

Pwrpas Codi'r Wefus yw:

•            annog rhieni i archwilio dannedd eu plentyn yn aml am arwyddion o bydredd dannedd a dangos iddynt sut i wneud hynny
•            tynnu sylw at risg unigol o bydredd dannedd a rhoi cyngor penodol ar sut i'w atal
•            pwysleisio pwysigrwydd iechyd y geg da
•            asesu anghenion unigol am wasanaethau deintyddol, a hwyluso’r defnydd o'r gwasanaethau hynny

I gael hyfforddiant ac adnoddau Codi'r Wefus, cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol